Rydym bron i hanner ffordd drwy’r gwyliau, ac mae yna lawer o bethau i’w gwneud o hyd!
Dyma grynodeb o’r hyn sy’n digwydd ledled y fwrdeistref sirol dros yr wythnosau nesaf:
9 Awst
Sesiwn Grefftau yn Amgueddfa Wrecsam
1pm-3pm
Crëwch eich nod tudalen papyrws eich hun ar thema’r Aifft.
Digwyddiad am ddim, dim angen cadw lle.
10 Awst
Chwarae gyda Rhannau Rhydd! yn Amgueddfa Wrecsam
10:30am-1:30pm
Bydd y digwyddiad yma’n cael ei gynnal beth bynnag fo’r tywydd, felly sicrhewch fod popeth gennych ar gyfer glaw neu hindda!
Digwyddiad am ddim. Dim angen cadw lle.
12 Awst
Diwrnod Hwyl Cymunedol Lleoedd Diogel
Sgwâr y Frenhines
9am-5pm
Reidiau ffair, stondinau, peintio wynebau, a llawer o wybodaeth am Leoedd Diogel.
15 Awst
Sesiwn grefftau i blant – gwneud melin wynt bapur.
Llyfrgell Wrecsam
Oedran 5+
Am ddim, angen cadw lle, ffôn 01978 292090.
16 Awst
Sesiwn Grefftau yn Amgueddfa Wrecsam
1pm-3pm
Dyluniwch fathodyn pêl-droed.
Digwyddiad am ddim, dim angen cadw lle.
17 Awst
Chwarae Dinas Gardbord! yn Amgueddfa Wrecsam
10:30am-1:30pm
Beth allwch chi ei greu efo cardbord yn y sesiwn chwarae awyr agored yma?
Digwyddiad am ddim. Dim angen cadw lle.
19 Awst
Chwaraeon Pro-skills yn Amgueddfa Wrecsam
10:30am-3pm
Digwyddiad i’r teulu cyfan, yn cynnwys dartiau pêl-droed, golff mini a llawer mwy.
Digwyddiad am ddim, dim angen cadw lle.
Nid dyma’r cyfan … cliciwch ar y dolenni isod am fwy o weithgareddau sydd ar gael yn ystod gweddill y gwyliau:
Magi Ann ac Xplore! Yn eich llyfrgell yr haf yma
Prosiect Gwaith Chwarae 2022/23 – beth am roi cynnig arni dros wyliau’r haf?
Sgiliau syrcas gyda’r prosiect gwaith chwarae
Cofiwch gadw golwg ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd, @cbswrecsam ar Twitter ac @cyngorwrecsam ar Facebook.
Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.
TALU NAWR