Berchnogion beic – mae hi bron yn amser i roi aer yn y teiars, chwilio am eich helmed beicio a newid i’r dillad, wrth i ddiwrnod Beicio i’r Gwaith 2023 agosáu.
Mae dathliad mwyaf y DU o gymudo i’r gwaith ar feic yn dychwelyd ddydd Iau 3 Awst 2023, ac rydym ni’n annog pobl sy’n byw ac yn gweithio yn Wrecsam i gymryd rhan!
Pa unai ydych chi’n feiciwr brwd neu’n feiciwr hamddenol, does dim ots – mae Diwrnod Beicio i’r Gwaith i bawb. A hyd yn oed os nad ydych chi’n gweithio ar y diwrnod, fe allwch chi gymryd rhan drwy ddewis beicio wrth wneud negesi, megis mynd i’r siop, casglu’r plant o’r ysgol neu gyfarfod â ffrindiau.
Mae yna lwythi o resymau pam y dylech chi feddwl am feicio, yn cynnwys:
- Mae’n helpu i chi gadw’n heini ac iach
- Mae’n cynyddu eich gallu (ydi, mae astudiaethau’n dangos bod beicio yn cyfnerthu twf cysylltiadau newydd rhwng celloedd yn ardaloedd cortigol yr ymennydd)
- Mae’n dda ar gyfer eich iechyd meddwl
- Mae’n lleihau eich ôl troed carbon
Mae gennym ni lwybrau beicio gwych yn lleol…gallwch daro golwg ar gynlluniwr teithiau Traveline Cymru a fydd yn eich helpu i drefnu eich taith.
Yn syml, mae diwrnod Beicio i’r Gwaith yn gyfle i atgoffa’n hunain o fanteision gwych y mae beicio’n ddyddiol yn ei gynnig.
Felly dim ond un cwestiwn sydd ar ôl i’w holi, ydych chi am gymryd rhan?
Heb weld hwn? Sgyrsiau Carbon a Hinsawdd Wrecsam – dweud eich dweud!
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.