Dydd Iau Pawb yw diwrnod digwyddiadau creadigol a dysgu wythnosol Tŷ Pawb.
Trwy gydol y dydd, bydd pob math o weithgareddau dychmygus ar gael i bobl o bob oedran a gallu. Felly p’un a ydych am fod yn greadigol neu am fwynhau cerddoriaeth fyw neu gael paned a sgwrs, Dydd Iau Pawb yw’r diwrnod i chi!
Dyma grynodeb o’r pethau a fydd yn mynd ymlaen:
Plant Bach
Dawnsiwch gyda’ch un bach mewn sesiwn symud a chwarae greadigol hwyliog a deinamig. Bydd thema’r dosbarth wedi’i ysbrydoli gan yr arddangosfeydd celf yn Nhŷ Pawb a byddant yn defnyddio cyfuniad o bropiau, caneuon, gemau a’ch dychymyg.
- Mae Mini Movers ar agor i bob plentyn dan 4 oed
- Bydd ymlaen yn y Lle Perfformio yn Nhŷ Pawb o 9.30am tan 10.15am
Tŷ Dance
Canolbwyntio ar symudedd, ffitrwydd a dawns, gyda chymysgedd o arferion wedi eu hunan-gyfeirio neu eu dysgu. Bydd y dosbarthiadau’n cynnwys gwaith â phropiau, gweithio mewn parau, ac ymarferion dawnsio’n sefyll neu mewn cadair.
- Mae Tŷ Dance yn addas i unrhyw un dros 40 oed.
- Bydd ymlaen yn y Lle Perfformio o 10.30am tan 12.30pm.
Ymwybyddiaeth Ofalgar – Tynnu Lluniau
Gweithgaredd i annog tawelwch, hapusrwydd a chreadigrwydd, wedi’i ysbrydoli gan ein harddangosfa bresennol – ‘Ai’r Ddaear yw Hon?’ Nid oes angen profiad.
- Bydd ymlaen yn Oriel 1 o 1pm tan 2pm.
- Mynediad am ddim.
Siediau Dynion
Sefydlwyd Siediau Dynion yn Wrecsam yn 2016 gan Stephen a Derek yng Nghanolfan Gymunedol Gwersyllt. Nod y grŵp yw goresgyn allgáu cymdeithasol ac annog dynion a merched i gymryd rhan yn eu cymuned leol a’i gwneud yn well lle. Dewch i gymryd rhan mewn gweithgareddau crefft a dylunio, chwarae gêm bwrdd neu i gael sgwrs dros goffi.
- Mae Siediau Dynion ar agor i ddynion a merched dros 18 oed.
- Bydd ymlaen yn Oriel 2 o 1pm tan 2pm.
Te, Coffi, Sgwrs a gweithgareddau tynnu llun
Dewch draw am sgwrs a phaned a gallwch ddewis cymryd rhan mewn gweithgaredd tynnu llun os ydych yn teimlo’n ysbrydoledig!
- Mynediad am ddim.
- Bydd ymlaen yn Oriel 2 o 1pm tan 2pm.
Dawnsio i Blant
Dosbarth dawnsio bywiog a chorfforol gyda chyfleoedd i archwilio coreograffi creadigol. Bydd thema’r dosbarth wedi’i ysbrydoli gan yr arddangosfeydd celf sydd i’w gweld yn Nhŷ Pawb.
- Gweithgaredd i blant 5 oed +
- Bydd ymlaen yn y Lle Perfformio o 4pm tan 5pm.
- Y gost yw £3.50 y plentyn.
Sesiynau Bywluniad
Digwyddiad wythnosol yw hwn. Ei sesiwn heb ei drin yn gweithio o fodel bywyd.
- Mae’r sesiwn yn rhedeg o 6.30pm-8.30pm.
- Cost yw £11 y sesiwn. Mae cyfradd gonsesiwn o £8 ar gael hefyd.
Sut i archebu lle
Os hoffech ddod i unrhyw un o’r digwyddiadau a restrir uchod, archebwch eich lle trwy ffonio Tŷ Pawb ar 01978 292093 neu e-bostiwch: typawb@wrexham.gov.uk
Cyngerdd am ddim yn ystod y dydd
I orffen y cyfan bydd Achille Jones, Gitarydd Clasurol, yn perfformio yn ein Lle Hyblyg (sef Sgwâr y Pobl) o 1pm tan 2pm. Mae hwn yn rhan o’n arddangosfeydd cerddoriaeth fyw a gynhelir bob pythefnos.
Nid oes angen archebu lle i’r cyngerdd. Dewch draw i fwynhau!
Dywedodd Aelod Arweiniol dros Bobl – Cymunedau, Partneriaethau Diogelwch y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol, y Cynghorydd Hugh Jones: “Rwy’n croesawu’r ystod eang o weithgareddau sy’n cael eu cynnal yn Nhy Pawb. Mae yna rywbeth i apelio at bob oed a gallu.
“Eisoes mae Ty Pawb yn dod yn ganolbwynt i bobl o bob rhan o Wrecsam a thu hwnt. Rwy’n siŵr y bydd y masnachwyr sydd wedi ymrwymo i Dy Pawb yn falch o weld yr atyniadau sylweddol ac atyniadau eang.”
Dwedwch sut y medrwn ni ateb i’r heriau tai dros y pum mlynedd nesaf.
DW I EISIAU CYNNIG FY MARN AR DAI