Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae ein Grant Cynhwysiant Cymunedol poblogaidd ar agor ac yn galw ar i bobl ymgeisio.
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall
Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor
Lucy Cowley
Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Mae ein Grant Cynhwysiant Cymunedol poblogaidd ar agor ac yn galw ar i bobl ymgeisio.
Y cyngor

Mae ein Grant Cynhwysiant Cymunedol poblogaidd ar agor ac yn galw ar i bobl ymgeisio.

Diweddarwyd diwethaf: 2021/05/11 at 12:01 PM
Rhannu
Darllen 5 funud
Community Inclusion Grant
RHANNU

Wrth i’r cyfnod clo lacio ac i leoliadau cymunedol baratoi i ailagor i’r cyhoedd, a oes gennych chi syniad sut i helpu’r rhai sy’n teimlo’n unig neu’n bryderus i deimlo’n ddiogel wrth ddychwelyd i’w cymunedau?

Crëwyd y Grant Cynhwysiant Cymunedol yn 2012 er mwyn ariannu prosiectau sy’n gwella bywydau pobl hŷn sy’n byw yn Wrecsam. Oherwydd y pandemig, mae pobl oedrannus a diamddiffyn yn teimlo’n fwy unig nag arfer, ac mae angen cefnogaeth arnynt. Mae’r grant hwn yn ceisio cynorthwyo pobl sydd â syniadau i wireddu’u cynlluniau ac i ddarparu’r gefnogaeth honno.

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

Cyhyd â bod sefyllfa’r coronafeirws yn aros yn sefydlog, gall gweithgareddau dan do i hyd at 15 oedolyn, megis dosbarthiadau ymarfer corff, ailddechrau ar 3 Mai, a gall Canolfannau Cymunedol ailagor ar 3 Mai hefyd, gan gynnig mwy o gyfleoedd i bobl ddod at ei gilydd eto.

Nid yn unig mae ailgysylltu pobl yn cael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd a’u lles emosiynol, ond mae’n cefnogi’u cymuned hefyd drwy gynnig mynediad at gyfalaf economaidd a chymdeithasol.

Y llynedd, bu’r grant o gymorth i Glwb Cinio Llai gadw mewn cysylltiad â’r aelodau pan fu’n rhaid i’r clwb cinio wythnosol ddod i ben. Ymgeisiodd y trefnydd, Clive Coleclough, am grant i ariannu newyddlenni a chwisiau i’w hanfon i’r aelodau, ac roedd y rheini oedd yn gorfod eu gwarchod eu hunain neu hunanynysu yn ystod y pandemig yn arbennig o ddiolchgar amdanynt:

Elsie: “Mae’r erthyglau a’r newyddlenni wedi bod yn ddifyr iawn, ac maent wedi fy helpu i gadw mewn cysylltiad â’r byd y tu allan yn ystod y cyfnod clo. Roedd y cwisiau yn fy ngorfodi i godi oddi ar fy mhen ôl i geisio’u datrys. Roeddwn hefyd yn cael sicrwydd o’r ffaith fod pobl eraill yn mynd drwy’r un profiad â fi. Roeddent yn rhoi pethau eraill imi feddwl amdanynt ac yn gyfle imi beidio â meddwl amdanaf i fy hun. Rwy’n edrych ymlaen at dderbyn mwy.”

Ann: “Mae’r e-byst a’r cwisiau a’r cardiau rheolaidd yn sicr wedi gwneud i mi – ac i bobl eraill, rwy’n siŵr – deimlo’n rhan o bethau, yn enwedig aelodau hŷn y clwb a’r rhai sy’n byw ar eu pennau eu hunain.”

Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae hwn yn gyfle gwych i grwpiau cymunedol neu unigolion dderbyn cyllid i’w helpu nhw gynnal eu prosiectau neu i wireddu eu syniadau.

“Mae wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth gysylltu gyda’r rhai yn ein cymuned sydd fwyaf tebygol o fod yn unig neu wedi eu hynysu ac rwy’n annog unrhyw grŵp neu unigolyn i gysylltu gyda’u syniadau er mwyn eu datblygu.”

Mae’r prosiectau eraill a dderbyniodd grant yn ystod 2020 yn cynnwys Dragon Dinners, Teithiau Cerdded Ymwybyddiaeth Ofalgar Holt, a Bocsys Llysiau Plas Madoc.

A oes gennych chi syniad, neu a oes arnoch angen arian ar gyfer prosiect sy’n bodoli eisoes, fydd yn helpu pobl oedrannus a diamddiffyn yn eich cymuned?

Mae arian, rhwng £200 a £2,500, ar gael i sefydlu gweithgareddau newydd neu i gynnal gweithgareddau sy’n bodoli eisoes sy’n lleihau arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd mewn cymunedau ar draws Bwrdeistref Sirol Wrecsam, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

Mae’r broses ymgeisio yn syml, ac mae’r ceisiadau’n cael eu hystyried gan Banel Ar-lein er mwyn sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu gwneud cyn gynted â phosibl. Am ragor o wybodaeth, meini prawf a ffurflen gais, cysylltwch â’r tîm gan ddefnyddio’r manylion isod.

Cysylltu â’r tîm

Mae ffurflen gais, meini prawf a chanllawiau ar gael dros e-bost: commissioning@wrexham.gov.uk neu dros y ffôn: 01978 290066 a gofynnwch am y Tîm Comisiynu er mwyn cael sgwrs anffurfiol neu ragor o wybodaeth.

???? Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.????

Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF

Rhannu
Erthygl flaenorol Gwaredwch ddyfeisiau profi llif unffordd yn ddiogel Gwaredwch ddyfeisiau profi llif unffordd yn ddiogel
Erthygl nesaf Does dim llawer o amser i wneud cais i'r Cynllun Preswylion Sefydlog i Ddinasyddion yr UE Does dim llawer o amser i wneud cais i’r Cynllun Preswylion Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor Awst 8, 2025
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor Awst 8, 2025
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall Awst 8, 2025
Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor Awst 7, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Family Teulu
Pobl a lleY cyngor

Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth

Awst 8, 2025
ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 8, 2025
Road maintenance
ArallY cyngor

Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall

Awst 7, 2025
Adult holding a child's hand
DigwyddiadauY cyngor

Galwad o’r newydd am fabwysiadwyr Cymraeg eu hiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Awst 1, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English