Mae ein harolwg newid hinsawdd a datgarboneiddio bellach ar agor ac mae arnom ni eisiau cymaint o drigolion â phosibl i gymryd rhan er mwyn i ni gefnogi pobl yn well wrth i ni wneud dewisiadau arbed ynni yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Mae yna hefyd wobrau gwych i’w hennill a fydd yn gymorth i chi arbed ynni a lleihau carbon. Mae pawb sy’n cwblhau’r arolwg ac yn gadael cyfeiriad e-bost yn cael eu cynnwys mewn raffl fawreddog, gyda chyfle i ennill taleb beic, popty araf, ffrïwr aer, gwefrydd ffôn symudol solar a thocyn blwyddyn i Xplore!
Meddai’r Cyng. David A Bithell, Cefnogwr yr Hinsawdd: “Yn 2019 datganasom Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol, ac fel rhan o’n Cynllun Datgarboneiddio mae arnom ni eisiau gweithio gyda phobl sy’n byw ac yn gweithio yn Wrecsam i godi eu hymwybyddiaeth a gwella eu dealltwriaeth o’r newidiadau sydd ar bob un ohonom ni angen eu gwneud i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
“Rydym ni’n gobeithio y bydd yr arolwg hwn yn codi ymwybyddiaeth pobl o’r materion hyn, yn ogystal â’n helpu ni i ddysgu ychydig bach mwy am bobl Wrecsam, a fydd yn gymorth i ni eu cefnogi i wneud y newidiadau sy’n gallu cael effaith fawr. Mae’r arolwg ar agor tan 30 Tachwedd ac yn cymryd ychydig funudau i’w gwblhau, felly cymerwch ran os fedrwch chi. Bydd pawb sy’n cymryd rhan ac yn gadael cyfeiriad e-bost yn cael eu cynnwys yn ein raffl fawreddog – ac mae gwobrau gwych ar gael.”
Am beth rydym ni’n chwilio?
I roi syniad sydyn i chi, mae’r arolwg yn ymdrin â’r materion canlynol:
• Y ddealltwriaeth gyffredinol o newid hinsawdd a’r argyfwng hinsawdd
• Y pethau mae pobl eisoes yn eu gwneud, neu’n ystyried eu gwneud i leihau eu cyfraniad at newid hinsawdd
• Y ddealltwriaeth o gyfraniad bodau dynol at newid hinsawdd
• Teimladau pobl am y costau byw cynyddol a’r cynnydd mewn prisiau ynni
• Gwybodaeth am gamau gweithredu sy’n gallu arbed arian, yn ogystal â lleihau carbon
• Pa systemau gwresogi sydd gan bobl Wrecsam
• Barn pobl am yr amgylchedd
• Sut mae pobl yn teithio yn Wrecsam
CYMERWCH RAN YN EIN HAROLWG
Lleoedd Cynnes
Yn ddiweddar rydym ni wedi cyhoeddi bod llyfrgelloedd Wrecsam yn mynd i fod yn ‘lleoedd cynnes’ – lleoedd sydd eisoes wedi’u gwresogi sy’n estyn croeso i bobl ddod i mewn i gadw’n gynnes.
Mae croeso i unrhyw un ddod i mewn i gadw’n gynnes a chlyd. Bydd sesiynau galw heibio hefyd yn cael eu cynnal ar ddyddiadau penodol i gynnig cymorth a chyngor pellach.
Gallwch ddarllen mwy am hyn yn ein blog Lleoedd Cynnes.
“Lleoedd cynnes” i gynnig lleoedd clyd a chyfforddus i breswylwyr yn ystod y misoedd oer