Mae FOCUS Wales, wedi cyhoeddi’r criw cyntaf o berfformwyr ar gyfer yr ŵyl ryngwladol yn 2019 a gaiff ei chynnal yn Wrecsam, Gogledd Cymru, rhwng 16 ac 18 Mai. Mae’r ŵyl bellach yn enwog am lwyfannu artistiaid newydd gwych cyn iddynt ddatblygu gyrfa lwyddiannus yn y maes, a gallwn gadarnhau na fydd yr artistiaid sydd gennym ar y gweill eleni yn eich siomi chi.
“Felly.. pwy fydd yno?”
Bydd enwebeion Gwobr Gerddoriaeth Gymraeg poblogaidd, Boy Azooga yn dychwelyd i FOCUS Wales yn 2019 yn dilyn eu blwyddyn brysur yn 2018 pan ryddhaodd y band eu halbwm cyntaf ac ymddangos am y tro cyntaf ar y teledu gyda’r BBC ac ar Later…with Jools Holland. Bydd y ddeuawd pync-roc seicedelig, The Lovely Eggs ar y llwyfan, enwogion BBC Radio 6Music, Be Camplight, yn ogystal â’r cyfansoddwr a’r aml-offerynnydd Americanaidd, Brian Christinzio.
Hefyd yn perfformio fydd un o’r artistiaid byw mwyaf cyffrous o Gymru, Islet, sy’n dychwelyd yn dilyn seibiant byr, Art School Girlfriend, sydd wedi dychwelyd yn ddiweddar ar ôl perfformio yng Ngŵyl BOP Montréal lle’r oeddent yn cynrychioli Cymru. Un o gyd-enwebeion Boy Azooga ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymraeg ac un o ffefrynnau Marc Riley 6Music, SEAZOO, yn ogystal â Martyn Joseph, yr artist gwerin celtaidd poblogaidd sydd wedi bod yn y maes ers dros 30 o flynyddoedd.
Mae enwau eraill a gyhoeddwyd yn cynnwys: Ani Glass, Dan Bettridge, I See Rivers, Kidsmoke, Rachel K Killier a’r artistiaid poblogaidd Iris Gold (Denmarc) a Tallies (Canada).
I weld y rhestr lawn o’r 50 artist a gyhoeddwyd, ymwelwch â www.focuswales.com
I WANT MY SAY!
NO…I DON’T WANT A SAY