Mae cynigion wedi’u cyflwyno ar gyfer parth 20mya newydd a fydd yn cynnwys rhannau o Plas Madog, Cefn Mawr, Acrefair, Newbridge a Rhosymedre.

Nod y cynigion a gyflwynwyd gan Gyngor Cymuned Cefn ydi annog pobl sy’n teithio i mewn ac o amgylch yr ardal allan o’u ceir, gan olygu na fydd rhaid iddynt yrru os ydynt eisiau teithio o un rhan o ardal Cefn a Phlas Madog i un arall.

Prif ffocws y cynlluniau ydi sicrhau y gall rhieni a gwarcheidwaid gerdded eu plant nôl ac ymlaen o’r ysgol, yn hytrach na gorfod dibynnu ar yrru i’r ysgol.

OHERWYDD SETLIAD SIOMEDIG GAN LYWODRAETH CYMRU, MAE RHAID I NI NEUD MWY O DORIADAU. MYNEGWCH EICH BARN…

Er mwyn ein helpu i gyrraedd y targed, rydym yn edrych ar greu rhwydwaith o lwybrau diogel a  chyfleus o amgylch Cefn a’r cymunedau gerllaw, gan gysylltu cymunedau a gwneud i yrwyr arafu ar rai prif lwybrau, a’i gwneud yn fwy diogel i gerddwyr a beicwyr.

Os ydych chi’n defnyddio rhai o’r llwybrau y sonnir amdanynt, fe hoffem glywed gennych chi i gael gwybod a ydych chi’n credu bod y cynigion yma’n angenrheidiol – neu pa ddulliau eraill y dylem eu hystyried.

Mae’r cynlluniau i’w gweld yma:

Gallwch e-bostio unrhyw sylwadau ar yr ymgynghoriad i darren.green@wrexham.gov.uk, a bydd sesiwn galw heibio ei ddal at Neuadd George Edwards, Cefn Mawr, ar ddydd Mawrth, Tachwedd 6, rhwng 6pm ac 8pm.

Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Annog pobl allan o’u ceir ydi un o’n prif nodau i fynd i’r afael â thargedau carbon – ond yn ogystal, gall helpu pobl i aros yn iach am hirach, a helpu i ddarparu cysylltiadau gwell rhwng cymunedau.

“Buaswn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y cynigion ar gyfer y llwybrau trwy Cefn Mawr, Rhosymedre, Newbridge, Acrefair a Phlas Madog i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad”.

Dywedodd y Cynghorydd Tyger Benbow-Jones, Aelod Ward Cefn, ac aelod o Gyngor Cymuned Cefn: “Mae gallu cerdded yn ddiogel o amgylch ein pentrefi mor bwysig i bawb yn ein cymuned, yn enwedig yn ystod amseroedd ysgol.

“Rydym yn byw mewn ardal mor hardd ac mae yna fanteision i’n hiechyd a lles wrth ddod allan o’n ceir a mwynhau ychydig o awyr iach ac ymarfer corff ysgafn – a chael cyfle i grwydro rhai o’n llwybrau coll sydd yn galluogi i ni ddarganfod mwy am ein hanes.

“Dewch draw i’r ymgynghoriad i ddweud eich dweud”.

Mae rhaid i ni neud mwy o doriadau… a gofyn i dalwyr treth am fwy o arian. Ond cyn i ni fynd ymlaen, rydym ni yn eisiau’ch barn.

DWI ISIO MYNEGI FY MARN DOES DIM OTS GEN I