Mae ein Caffi Cwrt wedi dod o hyd i gartref newydd!
Mae’r Caffi wedi symud i leoliad dros dro yn Ardal Fwyd Tŷ Pawb, gan ategu eu dewis gwych o fwytai lleol.
Mae’r fwydlen yn cynnwys yr holl fyrbrydau, brechdanau, prydau ysgafn, coffi gwych a phwdinau anorchfygol y bydd cwsmeriaid rheolaidd Courtyard Café yn eu hadnabod – ac mae hyd yn oed rhai arbennig Nadolig ymlaen yno hefyd!
Maent ar agor 10.30am-4.30pm Llun-Gwener, a 11.00am-3.30pm ar ddydd Sadwrn.
Mae Amgueddfa Wrecsam bellach ar gau i’r cyhoedd fel y gellir ailddatblygu’r adeilad yn ‘Amgueddfa Dau Hanner’ – amgueddfa newydd sbon i Wrecsam ochr yn ochr ag Amgueddfa Bêl-droed Cymru / Football Museum Wales