Erthygl gwestai gan “Growth Track 360”
Mae Growth Track 360 yn croesawu Adroddiad Interim Adolygiad O Gysylltedd Yr Undeb a chyllid Llywodraeth y DU i ddangos cynnydd cynnar ar fuddsoddiad trafnidiaeth trawsffiniol sy’n elwa Cymru a Lloegr
Mae arweinwyr awdurdod lleol o Ogledd Cymru, Cilgwri a Gorllewin Swydd Gaer a Chaer yn y bartneriaeth Growth Track 360 wedi croesawu cyhoeddiad Adroddiad Interim Undeb Adolygu Cysylltedd Llywodraeth y DU sy’n cael ei arwain gan Syr Peter Hendy.
Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru
Mae cyflwyniad Growth Track 360 i’r Adolygiad a wnaed ym mis Rhagfyr wedi argymell buddsoddiad mewn:
• Y Dwyrain – Coridor Arfordir Gogledd Orllewin Cymru gan gynnwys prif reilffordd Arfordir Gogledd Cymru a’r A55 a’r A494 sy’n cysylltu i rwydweithiau cenedlaethol y DU yng Nghaer;
• Coridor Gogledd i’r De – A483/A5 o Gaer i’r Amwythig a Chanolbarth Lloegr a’i reilffordd gysylltiedig – mae’r coridor hwn yn croesi’r ffin yn aml rhwng Lloegr a Chymru; a
• Rhwydweithiau ffyrdd a rheilffyrdd lleol er mwyn cael Metro Gogledd Cymru yn seiliedig ar hybiau rheilffyrdd yn gysylltiedig i ardaloedd cyflogaeth a phreswyl drwy wasanaethau bws integredig a choridorau teithio llesol.
• Datblygiad disodli Rhwydwaith yr UE TEN-T ledled y DU, lle mae’r UE wedi gwneud cyllid ar gael i wella cysylltedd ar draws yr Undeb yn amodol ar reolaeth gydweithredol o gyllid tebyg gan Lywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig.
Roedd y cyflwyniad yn cefnogi’r gwaith o gyflawni cynlluniau rheilffyrdd strategol y DU hefyd i gysylltu cymunedau’r ardal yng Nghymru a Lloegr:
• HS2 mewn Gorsaf ganolog yn Crewe;
• Northern Powerhouse Rail a HS2 yng nghyfnewidfa Warrington; a
• Manceinion Ganolog a Maes Awyr Manceinion.
Yn ogystal, roedd y cyflwyniad yn dadlau am well cysylltiadau fferïau o Gaergybi a Phenbedw gyda Gogledd Iwerddon er mwyn cael gwell cysylltedd a hwnnw’n gyflymach na chyswllt gosodedig o’r Alban.
Mae Growth Track 360 wedi bod yn galw am £20 miliwn o gyllid sbarduno hefyd, a ddefnyddir i ddatblygu tri chynllun allweddol i wella cysylltedd rheilffyrdd pwerdy economaidd Mersi-Dyfrdwy a Gogledd Cymru.
Mae Adroddiad Interim Syr Peter yn nodi bod y pryderon allweddol a fynegwyd iddo’n cynnwys:
- Cysylltiadau cyflymach ac uwch ar gyfer teithwyr o HS2 i’r Alban a Gogledd Cymru, ac o ganlyniad capasiti cludo llwythi gwell hefyd; a
- Capasiti gwell ym mhorthladd Caergybi, a chysylltiadau o Ynys Môn ac Arfordir Gogledd Cymru i Lannau Mersi a Manceinion ar gyfer cludo llwythi a theithwyr.
Mae Adroddiad Interim Syr Peter yn nodi diddordeb gan fudd-ddeiliaid a’r posibilrwydd o lwybr fferi Môr Iwerddon newydd rhwng Caergybi a Warrenpoint yng Ngogledd Iwerddon.
Gan weithio tuag at gyhoeddiad adroddiad terfynol yn yr haf, mae Syr Peter Hendy yn nodi bod achos strategol cadarn ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth ledled y DU i wella cysylltiadau cludiant rhwng y pedwar cenedl a rhwng rhanbarthau o fewn y cenhedloedd.
Mewn cyhoeddiad paralel, mae Llywodraeth Y DU wedi ymrwymo £20 miliwn tuag at archwilio datblygu pedwar prosiect ar draws y DU, ac un ohonynt yw “cysylltedd rheilffyrdd gwell rhwng arfordir gogledd Cymru a Lloegr”.
Dywedodd Cadeirydd Growth Track 360 – y Cynghorydd Louise Gittins, Arweinydd Gorllewin Sir Gaer a Chaer: “Rydym yn llongyfarch Syr Peter Hendy ar gyflymder a thrylwyredd yr Adroddiad Interim o Adolygiad O Gysylltedd Yr Undeb a chroesawu dyraniad cyllid Llywodraeth Y DU tuag at y pedwar prosiect gan gynnwys Prif Linell Reilffordd Arfordir Y Gogledd a’i gysylltiad i Loegr.”
Dywedodd yr Is-gadeirydd– y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd Sir y Fflint: “Rydym yn croesawu cydnabyddiaeth Syr Peter Hendy a phwysigrwydd cysylltiadau cludiant traws ffiniol i economi Gogledd Cymru a rhanbarthau cyffiniol Lloegr. Rydym yn edrych ymlaen at weithio’n agos gyda Syr Peter a’i dîm i gyflymu’r cynlluniau blaenoriaeth buddsoddiad a nodwyd gan Growth Track 360 a fydd yn rhyddhau llawn potensial ein rhanbarth.”
CANFOD Y FFEITHIAU