Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae Growth Track 360 yn croesawu Adroddiad Interim Adolygiad O Gysylltedd Yr Undeb
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Mae Growth Track 360 yn croesawu Adroddiad Interim Adolygiad O Gysylltedd Yr Undeb
ArallBusnes ac addysg

Mae Growth Track 360 yn croesawu Adroddiad Interim Adolygiad O Gysylltedd Yr Undeb

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 17, 2021 4:53 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
A483
RHANNU

Erthygl gwestai gan “Growth Track 360”

Mae Growth Track 360 yn croesawu Adroddiad Interim Adolygiad O Gysylltedd Yr Undeb a chyllid Llywodraeth y DU i ddangos cynnydd cynnar ar fuddsoddiad trafnidiaeth trawsffiniol sy’n elwa Cymru a Lloegr

Mae arweinwyr awdurdod lleol o Ogledd Cymru, Cilgwri a Gorllewin Swydd Gaer a Chaer yn y bartneriaeth Growth Track 360 wedi croesawu cyhoeddiad Adroddiad Interim Undeb Adolygu Cysylltedd Llywodraeth y DU sy’n cael ei arwain gan Syr Peter Hendy.

Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru

Mae cyflwyniad Growth Track 360 i’r Adolygiad a wnaed ym mis Rhagfyr wedi argymell buddsoddiad mewn:

• Y Dwyrain – Coridor Arfordir Gogledd Orllewin Cymru gan gynnwys prif reilffordd Arfordir Gogledd Cymru a’r A55 a’r A494 sy’n cysylltu i rwydweithiau cenedlaethol y DU yng Nghaer;

• Coridor Gogledd i’r De – A483/A5 o Gaer i’r Amwythig a Chanolbarth Lloegr a’i reilffordd gysylltiedig – mae’r coridor hwn yn croesi’r ffin yn aml rhwng Lloegr a Chymru; a

• Rhwydweithiau ffyrdd a rheilffyrdd lleol er mwyn cael Metro Gogledd Cymru yn seiliedig ar hybiau rheilffyrdd yn gysylltiedig i ardaloedd cyflogaeth a phreswyl drwy wasanaethau bws integredig a choridorau teithio llesol.

• Datblygiad disodli Rhwydwaith yr UE TEN-T ledled y DU, lle mae’r UE wedi gwneud cyllid ar gael i wella cysylltedd ar draws yr Undeb yn amodol ar reolaeth gydweithredol o gyllid tebyg gan Lywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig.

Roedd y cyflwyniad yn cefnogi’r gwaith o gyflawni cynlluniau rheilffyrdd strategol y DU hefyd i gysylltu cymunedau’r ardal yng Nghymru a Lloegr:

• HS2 mewn Gorsaf ganolog yn Crewe;
• Northern Powerhouse Rail a HS2 yng nghyfnewidfa Warrington; a
• Manceinion Ganolog a Maes Awyr Manceinion.

Yn ogystal, roedd y cyflwyniad yn dadlau am well cysylltiadau fferïau o Gaergybi a Phenbedw gyda Gogledd Iwerddon er mwyn cael gwell cysylltedd a hwnnw’n gyflymach na chyswllt gosodedig o’r Alban.

Mae Growth Track 360 wedi bod yn galw am £20 miliwn o gyllid sbarduno hefyd, a ddefnyddir i ddatblygu tri chynllun allweddol i wella cysylltedd rheilffyrdd pwerdy economaidd Mersi-Dyfrdwy a Gogledd Cymru.

Mae Adroddiad Interim Syr Peter yn nodi bod y pryderon allweddol a fynegwyd iddo’n cynnwys:

  • Cysylltiadau cyflymach ac uwch ar gyfer teithwyr o HS2 i’r Alban a Gogledd Cymru, ac o ganlyniad capasiti cludo llwythi gwell hefyd; a
  • Capasiti gwell ym mhorthladd Caergybi, a chysylltiadau o Ynys Môn ac Arfordir Gogledd Cymru i Lannau Mersi a Manceinion ar gyfer cludo llwythi a theithwyr.

Mae Adroddiad Interim Syr Peter yn nodi diddordeb gan fudd-ddeiliaid a’r posibilrwydd o lwybr fferi Môr Iwerddon newydd rhwng Caergybi a Warrenpoint yng Ngogledd Iwerddon.

Gan weithio tuag at gyhoeddiad adroddiad terfynol yn yr haf, mae Syr Peter Hendy yn nodi bod achos strategol cadarn ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth ledled y DU i wella cysylltiadau cludiant rhwng y pedwar cenedl a rhwng rhanbarthau o fewn y cenhedloedd.

Mewn cyhoeddiad paralel, mae Llywodraeth Y DU wedi ymrwymo £20 miliwn tuag at archwilio datblygu pedwar prosiect ar draws y DU, ac un ohonynt yw “cysylltedd rheilffyrdd gwell rhwng arfordir gogledd Cymru a Lloegr”.

Dywedodd Cadeirydd Growth Track 360 – y Cynghorydd Louise Gittins, Arweinydd Gorllewin Sir Gaer a Chaer: “Rydym yn llongyfarch Syr Peter Hendy ar gyflymder a thrylwyredd yr Adroddiad Interim o Adolygiad O Gysylltedd Yr Undeb a chroesawu dyraniad cyllid Llywodraeth Y DU tuag at y pedwar prosiect gan gynnwys Prif Linell Reilffordd Arfordir Y Gogledd a’i gysylltiad i Loegr.”

Dywedodd yr Is-gadeirydd– y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd Sir y Fflint: “Rydym yn croesawu cydnabyddiaeth Syr Peter Hendy a phwysigrwydd cysylltiadau cludiant traws ffiniol i economi Gogledd Cymru a rhanbarthau cyffiniol Lloegr. Rydym yn edrych ymlaen at weithio’n agos gyda Syr Peter a’i dîm i gyflymu’r cynlluniau blaenoriaeth buddsoddiad a nodwyd gan Growth Track 360 a fydd yn rhyddhau llawn potensial ein rhanbarth.”

???? Mynnwch y ffeithiau…darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf am raglen frechu Covid-19 GIG Cymru ar gyfer Wrecsam a Gogledd Cymru ????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/ystadegau-brechu-lleol-ar-gyfer-gogledd-cymru1/”]CANFOD Y FFEITHIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Trevor Basin Tirwedd hardd a hanesyddol GOGLEDD DDWYRAIN CYMRU yn destun prosiect celf newydd
Erthygl nesaf Tenants helped Tenantiaid yn dychwelyd i’w gartrefi gyda help gan staff adran Tai

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English