Mae ein contractwyr, SWG, wedi dechrau gwaith yn y lleoliad newydd ar gyfer Marchnadoedd Wrecsam sy’n seiliedig ar Sgwâr y Frenhines.
Pan fydd y gwaith hwn wedi’i gwblhau, hwn fydd cartref newydd dros dro stondinwyr o Farchnad y Cigyddion ac yna Marchnad Gyffredinol Wrecsam, wrth i waith uwchraddio ac adnewyddu gael ei wneud i’r adeiladau hyn.
Mae’n fusnes fel arfer yn ein marchnadoedd ac mae masnachwyr yn gweithredu fel arfer ym Marchnad y Cigyddion a’r Farchnad Gyffredinol. Pan fydd gwaith yn yr adeilad newydd wedi’i gwblhau, bydd masnachwyr yn symud i’r lleoliad newydd- byddwn yn cyhoeddi’r dyddiadau hyn maes o law.
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adfywio: “Mae gwaith sy’n dechrau yn yr adeilad newydd yn garreg filltir allweddol o ran adfywio ein marchnadoedd hanesyddol. “Gobeithiwn y bydd y lleoliad prysur yng nghanol y ddinas yn darparu cartref dros dro da i’n masnachwyr wrth i’r gwaith uwchraddio ac adnewyddu gael ei wneud ym Marchnad y Cigyddion a’r Farchnad Gyffredinol.”
*Ariennir Cynllun Treftadaeth Treflun Wrecsam gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru – Cronfa Trawsnewid Trefi, a Rhaglen Gyfalaf Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.