Mae gwaith wedi hen ddechrau ar ddatblygiad tai i adeiladu cartrefi cyntaf y cyngor yn Wrecsam ers 1991.
Rydym yn cydweithio â datblygwyr Liberty i adeiladu cartrefi newydd y cyngor ar safle’r hen gartref gofal preswyl Nant Silyn, ym Mhont Wen, Parc Caia.
Bydd 14 eiddo newydd, gan gynnwys wyth fflat, pedwar tŷ dwy ystafell wely, un byngalo un ystafell wely i unigolyn hŷn ac un byngalo dwy ystafell wely wedi’i addasu’n llawn.
Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws
Dechreuodd y gwaith ar y safle yn ystod gaeaf 2019 ac erbyn hyn disgwylir ei gwblhau yn fuan yn 2021.
“Wrth ein boddau”
Dywedodd y Cyng. David Griffiths, Aelod Arweiniol Tai yng Nghyngor Wrecsam, bod yr awdurdod yn falch o adeiladu’r datblygiad tai cymdeithasol cyntaf ers bron i 30 mlynedd.
Y Cynghorydd Griffiths: “Rydym ni wrth ein boddau ein bod ni’n adeiladu eiddo cymdeithasol newydd yn Wrecsam am y tro cyntaf ers 1991, yn anffodus mae pethau’n cymryd ychydig yn hirach i’w cwblhau na’r hyn oeddem yn ei ragweld yn wreiddiol oherwydd y pandemig, ond rydym yn falch ein bod yn gallu adeiladu tai nwydd ar y safle yma.
Bydd y datblygiad yn trawsnewid safle’r hen gartref gofal Nant Silyn, a gaeodd ei drysau bum mlynedd yn ôl, i gymuned newydd ac rydym yn falch ein bod yn cydweithio â Liberty ar y datblygiad newydd.
Mae cynllun Nant Silyn yn ffurfio’r datblygiad tai cymdeithasol cyntaf sydd wedi’i glustnodi ar gyfer Wrecsam, gyda datblygiad arall ym Mhlas Madoc yn disgwyl caniatâd cynllunio.”
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Mae hwn yn brosiect uchelgeisiol ar gyfer Cyngor Wrecsam, a bydd yn darparu cartrefi gydol oes ar gyfer ein tenantiaid.
Rydw i’n falch iawn ein bod yn adeiladu cartrefi cyngor newydd ac y bydd yr eiddo yn cyfrannu at yr angen o ran tai ar gyfer rhai o’r bobl fwyaf diamddiffyn yn ein cymunedau.”
YMGEISIWCH RŴAN