Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall
Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor
Lucy Cowley
Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
Arall

Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

Diweddarwyd diwethaf: 2021/06/18 at 1:08 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
Vaccine
RHANNU

Erthygl gwadd – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cynnwys
Cyngor i’r rheiny heb gysylltiad â’r rhyngrwydPoeni am dderbyn y brechlyn?Cyngor i’r rheiny sy’n byw yng ngogledd Cymru ond sydd wedi cofrestru â meddyg teulu yn Lloegr

Mae defnyddio’r gwasanaeth trefnu apwyntiad ar-lein i dderbyn eich brechlyn cyntaf neu’ch ail frechlyn ar ddyddiad ac amser, ac mewn lleoliad cyfleus, yn hawdd a chyflym iawn.

Mae yna glinigau ar gael ar hyd a lled y gogledd ac mae apwyntiadau newydd yn cael eu hychwanegu’n rheolaidd.

Mae sesiynau galw heibio ar fyr rybudd hefyd ar gael er mwyn gwella hyblygrwydd ac osgoi gwastraffu brechlynnau.

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

Os nad ydych chi wedi derbyn eich brechlyn cyntaf, peidiwch ag aros am lythyr apwyntiad drwy’r post – trefnwch eich apwyntiad ar-lein cyn gynted â phosibl.

Oherwydd y bygythiad yn sgil yr amrywiolyn Delta, mae’r cyfnod rhwng brechlyn cyntaf ac ail frechlyn Pfizer wedi’i leihau i wyth wythnos.

Mae hyn yn golygu bod modd i unrhyw un sydd wedi derbyn brechlyn Pfizer neu AstraZeneca drefnu apwyntiad i dderbyn eu hail frechlyn wyth wythnos ar ôl y cyntaf (i dderbyn yr un math o frechlyn a’r brechlyn cyntaf).

Cyngor i’r rheiny heb gysylltiad â’r rhyngrwyd

Os nad oes gennych chi fynediad at y rhyngrwyd i drefnu apwyntiad ar-lein, ffoniwch ein Canolfan Gyswllt Brechiad Covid-19 ar 03000 840004. Mae’n bosibl y bydd y llinellau yn brysur felly gofynnwn i chi fod yn amyneddgar efo ni.

Poeni am dderbyn y brechlyn?

Os oes gennych chi unrhyw bryder ynghylch derbyn y brechlyn, trefnwch ac ewch i’ch apwyntiad. Bydd y staff yno yn gallu treulio amser efo chi yn trafod y brechlyn cyn i chi benderfynu ei dderbyn neu beidio.

Mae’n bwysig eich bod chi’n gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth, yn seiliedig ar yr wybodaeth ddiweddaraf o ffynonellau dibynadwy. Mae gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn lle da i ddechrau.

Cyngor i’r rheiny sy’n byw yng ngogledd Cymru ond sydd wedi cofrestru â meddyg teulu yn Lloegr

Os ydych chi’n byw yng ngogledd Cymru ond wedi cofrestru â meddyg teulu yn Lloegr, fe allwch chi dderbyn eich brechlyn Covid-19 yn un o’r clinigau a restrir ar y gwasanaeth trefnu apwyntiad ar-lein – sydd wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu hyn.

Mae hyn yn berthnasol iawn i bobl sy’n byw ar y ffin yn Sir y Fflint a Wrecsam.

???? Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://llyw.cymru/cyfyngiadau-cyfredol “] Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Bar with drinks Bar Wrecsam yn derbyn hysbysiad gwella ar gyfer torri rheolau Covid
Erthygl nesaf Planning for Dark Skies Ymgynghoriad ar ‘Cynllunio ar gyfer Awyr Dywyll: Canllaw Cynllunio Atodol ar gyfer goleuadau y

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor Awst 8, 2025
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor Awst 8, 2025
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall Awst 8, 2025
Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor Awst 7, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Road maintenance
ArallY cyngor

Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall

Awst 7, 2025
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
ArallFideoY cyngor

Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam

Gorffennaf 14, 2025
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arall

Arolwg Cyflwr Gofalu 2025

Gorffennaf 10, 2025
Os wyt ti wrth safle digwyddiad, paid cymryd llun i’w rannu ar-lein. Ffonia am gymorth.
Arall

Menyw ifanc yn arwain ymgyrch Rhwydwaith Trawma De Cymru i atal pobl rhag ffilmio wrth safle digwyddiad

Gorffennaf 7, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English