Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ymgynghoriad ar ‘Cynllunio ar gyfer Awyr Dywyll: Canllaw Cynllunio Atodol ar gyfer goleuadau y
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Ymgynghoriad ar ‘Cynllunio ar gyfer Awyr Dywyll: Canllaw Cynllunio Atodol ar gyfer goleuadau y
Y cyngor

Ymgynghoriad ar ‘Cynllunio ar gyfer Awyr Dywyll: Canllaw Cynllunio Atodol ar gyfer goleuadau y

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 21, 2021 10:33 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Planning for Dark Skies
RHANNU

Pam ydyn ni`n gwneud hyn?

Mae Cyngor Sir Ddinbych mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, yn ceisio barn am nodyn Canllaw Cynllunio Atodol (CCA) drafftar gyfer goleuadau yn yr AHNE. Bydd hwn yn cynnig cyngor a chyfarwyddyd i ddatblygwyr ac eraill ar greu dyluniad goleuo da yn yr AHNE.

Cynnwys
  • Pam ydyn ni`n gwneud hyn?
  • Beth ydym ni eisiau ei wybod?

Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, Cadeirydd Cydbwyllgor yr AHNE: “AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yw un o dirweddau hyfrytaf Cymru. Mae’n un o’r ardaloedd sy’n mwynhau’r awyr dywyllaf yng Nghymru ac yn cynnig cyfleoedd i brofi rhyfeddodau awyr dywyll. Bydd y CCA yn helpu gwarchod a gwella’r nodwedd arbennig hon drwy godi ymwybyddiaeth am y mater a hyrwyddo dyluniad goleuo sy’n ystyriol o’r awyr dywyll.  Fe hoffem ni glywed eich barn chi, a byddwn yn annog cymaint o bobl ag sy’n bosib i gymryd rhan yn y broses ymgynghori a chael dweud eu dweud ar y CCA drafft cyn y dyddiad cau ar 9 Awst.”

Mae’r AHNE wedi’i dynodi yn dirwedd o bwysigrwydd cenedlaethol a’n diben pennaf yw gwarchod a gwella ei harddwch naturiol. Un o nodweddion arbennig cydnabyddedig yr AHNE yw ei natur llonydd sy’n cynnig cyfle i weld awyr dywyll. Mae’r AHNE yn un o’r ardaloedd sydd â’r awyr dywyllaf yng Nghymru, ac mae’r CCA drafft yn ceisio gwarchod a gwella’r nodwedd arbennig hon drwy ddarparu canllawiau i ddatblygwyr ac eraill ar greu dyluniad goleuo sy’n ystyriol o’r awyr dywyll. Pan gaiff ei gymeradwyo gan yr Awdurdodau Cynllunio Lleol, bydd y CCA yn ystyriaeth gynllunio berthnasol wrth benderfynu ar geisiadau ac apeliadau cynllunio.

Beth ydym ni eisiau ei wybod?

Mae’r tri Awdurdod Cynllunio Lleol a’r AHNE yn awyddus i glywed gan amrywiaeth eang o sefydliadau statudol ac anstatudol, cynghorau tref a chymuned, grwpiau gwirfoddol a’r cyhoedd, yn ogystal ag asiantau ac ymgynghorwyr cynllunio lleol.

Gellir gweld y ddogfen ar wefan AHNE, ac mae copïau caled ar gael ar gyfer eu harchwilio yn llyfrgelloedd cyhoeddus Sir Ddinbych.

Dylech anfon eich sylwadau at Gyngor Sir Ddinbych, sy’n cydlynu’r ymgynghoriad ar ran y tri Awdurdod Cynllunio Lleol. Gallwch gyflwyno sylwadau drwy

Borth Ymgynghori Sir Ddinbych, dros e-bost i:  clwydianrangeaonb@denbighshire.gov.uk neu drwy anfon llythyr at Huw Rees, Rheolwr y Gwasanaethau Cefn Gwlad a Threftadaeth, Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a’r Gwasanaethau Cefn Gwlad, Blwch Post 62, Rhuthun LL15 9AZ.

Dyddiad Cychwyn y Project14 Mehefin 2021
Dyddiad Cau’r Prosiect09 Awst 2021
Rhannu
Erthygl flaenorol Vaccine Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
Erthygl nesaf 111 Gwasanaeth 111 yn cael ei lansio yng Ngogledd Cymru ddydd Mawrth 22 Mehefin 2021

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor

Apêl cotiau gaeaf i blant 2026

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English