Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Bar Wrecsam yn derbyn hysbysiad gwella ar gyfer torri rheolau Covid
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Bar Wrecsam yn derbyn hysbysiad gwella ar gyfer torri rheolau Covid
ArallY cyngor

Bar Wrecsam yn derbyn hysbysiad gwella ar gyfer torri rheolau Covid

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 18, 2021 12:19 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Bar with drinks
RHANNU

Cymryd camau gweithredu yn erbyn bar yng nghanol y dref, ac erfyn ar fusnesau a chwsmeriaid i gadw at y rheolau i ddiogelu Wrecsam…

Cynnwys
  • Mae’n rhaid i ni weithredu
  • Dim busnesau yn unig… mae’n rhaid i bawb chwarae ei ran
  • Gwybodaeth ddefnyddiol

Fel Cyngor rydym ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi busnesau lleol yn ystod y pandemig.

- Cofrestru -
Wrecsam2029

Mae’n wych gallu dweud bod y rhan fwyaf o fusnesau yn rheoli’r risgiau yn dda, ac yn cadw staff a chwsmeriaid mor ddiogel â phosibl.

Fodd bynnag, mae’n ddyletswydd arnom ni hefyd i ymyrryd pan fo busnes yn rhoi staff, cwsmeriaid a Wrecsam yn gyffredinol mewn perygl drwy beidio â chadw at fesurau diogelwch Covid-19.

Felly yr wythnos hon rydym ni wedi cyflwyno “hysbysiad gwella” i far Penny Black, Stryt yr Abad, Wrecsam.

Rydym ni wedi gwneud hyn yn defnyddio pwerau a roddwyd i gynghorau lleol dan y ddeddfwriaeth coronafeirws.

Mae’r eiddo wedi torri’r rheoliadau oherwydd:

  • Diffyg cadw pellter cymdeithasol ymysg cwsmeriaid.
  • Caniatáu i bobl yfed yn sefyll i fyny (mae’n rhaid i gwsmeriaid eistedd i lawr).
  • Cwsmeriaid ddim yn gwisgo masgiau pan nad ydyn nhw’n eistedd.
  • Gorlenwi.

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

Mae’n rhaid i ni weithredu

Rydym wedi casglu tystiolaeth drwy Deledu Cylch Caeëdig, aelodau’r heddlu yn ffilmio gyda chamerâu corff ac aelodau’r heddlu yn lygad-dystion i’r achosion, a’r busnes wedi cael ei rybuddio yn ddiweddar am achosion tebyg.

Meddai’r Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol Cyngor Wrecsam:

“Does arnom ni ddim eisiau rhoi hysbysiadau o’r fath i fusnesau, ond mae’n rhaid i bob sefydliad gadw at y rheolau er mwyn cadw Wrecsam yn saff.

“Rydym yma i helpu, ond os ydi pobl yn anwybyddu ein cyngor yna rhaid i ni weithredu ar hynny.

“Byddwn yn parhau i weithio gyda Penny Black i ddarparu arweiniad pellach ac i’w hannog nhw i wneud gwelliannau ar unwaith er mwyn cydymffurfio â’r rheoliadau.”

Dim busnesau yn unig… mae’n rhaid i bawb chwarae ei ran

Mae rôl gan bob un ohonom i’w gyflawni pan fyddwn allan yn bwyta ac yn yfed.

Meddai’r Cynghorydd Jones:

“Nid busnesau yn unig sydd â chyfrifoldeb i gadw canol y dref yn ddiogel a chroesawgar. Mae gennym ni fel cwsmeriaid ran bwysig i’w chwarae hefyd.

“Felly pan fyddwch chi’n mynd i dafarn, caffi neu fwyty, helpwch y staff drwy ddilyn y cyfarwyddiadau a chadw at y rheolau cadw pellter cymdeithasol.

“Mae’n hawdd colli ein pennau pan fyddwn ni’n mwynhau ein hunain, ond mae’n rhaid i ni gofio bod y feirws dal o gwmpas.”

Gwybodaeth ddefnyddiol

Os ydych chi’n rhedeg busnes yn Wrecsam a’ch bod chi’n ansicr ynghylch y rheoliadau Covid-19 diweddaraf a sut maen nhw’n effeithio arnoch chi, edrychwch ar wefan Llywodraeth Cymru.

Os oes arnoch chi angen rhagor o gyngor, cysylltwch â Chyngor Wrecsam.

???? Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://llyw.cymru/cyfyngiadau-cyfredol “] Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Children's Services Paragraff anghywir yn Adroddiad Monitro Blynyddol yr Iaith Gymraeg i’r Bwrdd Gweithredol Mehefin 2021
Erthygl nesaf Vaccine Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor
Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni
Pobl a lle
Awst 11, 2026
Water
Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr
Arall Fideo
Awst 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig
Y cyngor

Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig

Awst 5, 2026
Cyngor Wrecsam yn cefnogi nodyn atgoffa Cadwch Gymru’n Daclus – Creu Straeon Nid Sbwriel yr haf hwn! 
Y cyngor

Cyngor Wrecsam yn cefnogi nodyn atgoffa Cadwch Gymru’n Daclus – Creu Straeon Nid Sbwriel yr haf hwn! 

Awst 4, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English