Vaccine

Erthygl gwadd – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Mae defnyddio’r gwasanaeth trefnu apwyntiad ar-lein i dderbyn eich brechlyn cyntaf neu’ch ail frechlyn ar ddyddiad ac amser, ac mewn lleoliad cyfleus, yn hawdd a chyflym iawn.

Mae yna glinigau ar gael ar hyd a lled y gogledd ac mae apwyntiadau newydd yn cael eu hychwanegu’n rheolaidd.

Mae sesiynau galw heibio ar fyr rybudd hefyd ar gael er mwyn gwella hyblygrwydd ac osgoi gwastraffu brechlynnau.

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

Os nad ydych chi wedi derbyn eich brechlyn cyntaf, peidiwch ag aros am lythyr apwyntiad drwy’r post – trefnwch eich apwyntiad ar-lein cyn gynted â phosibl.

Oherwydd y bygythiad yn sgil yr amrywiolyn Delta, mae’r cyfnod rhwng brechlyn cyntaf ac ail frechlyn Pfizer wedi’i leihau i wyth wythnos.

Mae hyn yn golygu bod modd i unrhyw un sydd wedi derbyn brechlyn Pfizer neu AstraZeneca drefnu apwyntiad i dderbyn eu hail frechlyn wyth wythnos ar ôl y cyntaf (i dderbyn yr un math o frechlyn a’r brechlyn cyntaf).

Cyngor i’r rheiny heb gysylltiad â’r rhyngrwyd

Os nad oes gennych chi fynediad at y rhyngrwyd i drefnu apwyntiad ar-lein, ffoniwch ein Canolfan Gyswllt Brechiad Covid-19 ar 03000 840004. Mae’n bosibl y bydd y llinellau yn brysur felly gofynnwn i chi fod yn amyneddgar efo ni.

Poeni am dderbyn y brechlyn?

Os oes gennych chi unrhyw bryder ynghylch derbyn y brechlyn, trefnwch ac ewch i’ch apwyntiad. Bydd y staff yno yn gallu treulio amser efo chi yn trafod y brechlyn cyn i chi benderfynu ei dderbyn neu beidio.

Mae’n bwysig eich bod chi’n gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth, yn seiliedig ar yr wybodaeth ddiweddaraf o ffynonellau dibynadwy. Mae gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn lle da i ddechrau.

Cyngor i’r rheiny sy’n byw yng ngogledd Cymru ond sydd wedi cofrestru â meddyg teulu yn Lloegr

Os ydych chi’n byw yng ngogledd Cymru ond wedi cofrestru â meddyg teulu yn Lloegr, fe allwch chi dderbyn eich brechlyn Covid-19 yn un o’r clinigau a restrir ar y gwasanaeth trefnu apwyntiad ar-lein – sydd wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu hyn.

Mae hyn yn berthnasol iawn i bobl sy’n byw ar y ffin yn Sir y Fflint a Wrecsam.

😷 Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.👈

Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF