Bydd Hydref Glân Cymru yn cael ei gynnal rhwng 11-27 Medi, wrth i’r elusen Cadwch Gymru’n Daclus ofyn i chi gymryd rhan.
Gan fod Gwanwyn Glân Cymru wedi gorfod cael ei ganslo yn gynharach eleni, mae Cadwch Gymru’n Daclus yn gobeithio y bydd Hydref Glân Cymru yn cael effaith fawr, er y bydd hyn mewn ffordd wahanol i’r arfer.
Eleni, er mwyn sicrhau bod pawb yn cadw’n ddiogel ac yn iach, mae’r elusen yn annog unigolion ac aelwydydd i lanhau’r strydoedd, parciau a’r traethau sydd ar eu stepen drws.
Mae dwy ffordd o gymryd rhan:
1. Trefnu ymgyrch glanhau preifat ar gyfer eich aelwyd yn eich ardal leol
2. Gwneud addewid i gynnal eich ymgyrch glanhau eich hun
Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn hapus i gefnogi Hydref Glân Cymru ac yn annog pobl yn Wrecsam i gymryd rhan. Os oes gennych amser i lanhau am ddeg munud, neu os allwch gyflawni ychydig o oriau, bydd popeth yn gwneud gwahaniaeth.”
Ar eu gwefan, mae Cadwch Gymru’n Daclus yn dweud: “Rydym wrth ein bodd gyda’r gefnogaeth tuag at ein gwaith dros y misoedd diwethaf. Mae’n ymddangos bod pobl, nawr yn fwy nag erioed, yn cydnabod pa mor bwysig yw amgylchedd glân a diogel i’w hiechyd a’u lles.
Mae rhwystredigaeth wedi bod hefyd o ran y cynnydd mewn sbwriel ers i’r cyfyngiadau gael eu llacio. Mae Hydref Glân Cymru yn gyfle i ni gyd sefyll a datgan nad yw sbwriel yn dderbyniol.”
Gallwch gofrestru ar gyfer Hydref Glân Cymru yma.
YMGEISIWCH RŴAN