Local places for nature

Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi agor eu cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur unwaith eto a gallwch ymgeisio am becyn gardd am ddim heddiw.

Y llynedd, cafodd dros 500 o fannau gwyrdd eu creu, eu hadfer neu eu gwella ar draws y wlad. Fe wnaeth grwpiau cymunedol a sefydliadau o bob lliw a llun gymryd rhan – o elusennau anableddau a grwpiau ieuenctid i fentrau cymdeithasol a grwpiau gofalwyr.

Rŵan, diolch i gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, mae ganddyn nhw gannoedd o becynnau ar gael eto. Dyma eich cyfle chi i wyrdroi dirywiad natur a rhoi hwb pwysig i les eich cymuned leol ar yr un pryd.

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

Mae pob pecyn yn cynnwys planhigion brodorol, offer a deunyddiau eraill am ddim. Bydd Cadwch Gymru’n Daclus yn trin yr archebion a’r dosbarthu, a bydd eu swyddogion prosiect hyd yn oed yn darparu cefnogaeth ar lawr gwlad.

Bydd eu pecynnau eleni’n disgyn i ddau ddosbarth:

Yn 2021-2022, bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i brosiectau mewn ardaloedd trefol difreintiedig sydd heb lawer neu ddim mynediad at natur. Rydyn ni hefyd yn awyddus iawn i groesawu ceisiadau gan grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar hyd a lled Cymru.

 

Mae’r broses ymgeisio’n syml. Ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus, dewiswch eich pecyn, darllenwch y canllawiau, a lawrlwythwch a llenwch y ffurflen gais.

Maen nhw’n disgwyl i’r pecynnau fod yn boblogaidd iawn, felly gofalwch eich bod chi’n cyflwyno’ch cais yn fuan!

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Mae hwn yn gyfle gwych i wella mannau gwyrdd yn ein cymunedau a dwi’n gobeithio bod llawer iawn o grwpiau, sefydliadau ac unigolion yn manteisio ar y cyfle i weithio yn eu hardal.”

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’n tîm Lleoedd Lleol ar gyfer Natur – anfonwch neges at nature@keepwalestidy.cymru

😷 Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.👈

Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF