Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn ôl ????
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Mae Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn ôl ????
Arall

Mae Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn ôl ????

Diweddarwyd diwethaf: June 15, 2021 1:44 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Local places for nature
RHANNU

Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi agor eu cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur unwaith eto a gallwch ymgeisio am becyn gardd am ddim heddiw.

Y llynedd, cafodd dros 500 o fannau gwyrdd eu creu, eu hadfer neu eu gwella ar draws y wlad. Fe wnaeth grwpiau cymunedol a sefydliadau o bob lliw a llun gymryd rhan – o elusennau anableddau a grwpiau ieuenctid i fentrau cymdeithasol a grwpiau gofalwyr.

Rŵan, diolch i gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, mae ganddyn nhw gannoedd o becynnau ar gael eto. Dyma eich cyfle chi i wyrdroi dirywiad natur a rhoi hwb pwysig i les eich cymuned leol ar yr un pryd.

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

Mae pob pecyn yn cynnwys planhigion brodorol, offer a deunyddiau eraill am ddim. Bydd Cadwch Gymru’n Daclus yn trin yr archebion a’r dosbarthu, a bydd eu swyddogion prosiect hyd yn oed yn darparu cefnogaeth ar lawr gwlad.

Bydd eu pecynnau eleni’n disgyn i ddau ddosbarth:

  • Pecynnau cychwynnol i grwpiau cymunedol neu wirfoddol sydd eisiau creu gardd i bryfed peillio, gardd ffrwythau a pherlysiau, neu ardd drefol.
  • Pecynnau datblygu ar gyfer sefydliadau cymunedol sy’n barod i fynd i’r afael â phrosiect mwy ac adeiladu gardd i dyfu bwyd neu ardd bywyd gwyllt.

Yn 2021-2022, bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i brosiectau mewn ardaloedd trefol difreintiedig sydd heb lawer neu ddim mynediad at natur. Rydyn ni hefyd yn awyddus iawn i groesawu ceisiadau gan grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar hyd a lled Cymru.

 

Mae’r broses ymgeisio’n syml. Ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus, dewiswch eich pecyn, darllenwch y canllawiau, a lawrlwythwch a llenwch y ffurflen gais.

Maen nhw’n disgwyl i’r pecynnau fod yn boblogaidd iawn, felly gofalwch eich bod chi’n cyflwyno’ch cais yn fuan!

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Mae hwn yn gyfle gwych i wella mannau gwyrdd yn ein cymunedau a dwi’n gobeithio bod llawer iawn o grwpiau, sefydliadau ac unigolion yn manteisio ar y cyfle i weithio yn eu hardal.”

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’n tîm Lleoedd Lleol ar gyfer Natur – anfonwch neges at nature@keepwalestidy.cymru

???? Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://llyw.cymru/cyfyngiadau-cyfredol “] Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Mae MYFYRIWR wedi cychwyn ar yrfa yn y diwydiant adeiladu ar ôl cyfarfod ei gyflogwyr newydd ar gwrs Sgiliau Adeiladu Traddodiadol Mae MYFYRIWR wedi cychwyn ar yrfa yn y diwydiant adeiladu ar ôl cyfarfod ei gyflogwyr newydd ar gwrs Sgiliau Adeiladu Traddodiadol
Erthygl nesaf Mae’n Bythefnos Ymwybyddiaeth Sgamiau… does dim rhaid i chi ddelio â sgamiau ar eich pen eich hun Mae’n Bythefnos Ymwybyddiaeth Sgamiau… does dim rhaid i chi ddelio â sgamiau ar eich pen eich hun

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Noson tân gwyllt – syniadau cyn cynnau
Noson tân gwyllt – syniadau cyn cynnau
Y cyngor
November 4, 2026
bys deulawr
Gwelliannau arfaethedig i deithio ar fysus ar gyfer ardaloedd cyflogaeth allweddol
Busnes ac addysg Arall
November 3, 2026
Wrecsam yn paratoi ar gyfer Cynnau’r Goleuadau Nadolig eleni
Wrecsam yn paratoi ar gyfer Cynnau’r Goleuadau Nadolig eleni
Digwyddiadau
November 3, 2026
Vote
Mewn dau le ar yr un pryd…
Pobl a lle Busnes ac addysg
November 2, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wo
Pobl a lleArallDatgarboneiddio Wrecsam

Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid

October 23, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

October 22, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

October 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref

October 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English