Mae Maer Wrecsam, y Cyng Brian Cameron wedi ysgrifennu at Clwb Pêl-Droed Wrecsam ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, yn eu llongyfarch am y llwyddiannau diweddar

Craig Colville
2 Min Read

Gyda balchder aruthrol yr wyf yn ysgrifennu atoch i longyfarch y clwb ar eu dyrchafiad hanesyddol wrth dychwelyd i’r Gynghrair Bêl-droed. Hoffwn hefyd longyfarch tîm Merched Clwb Pêl-droed Wrecsam am eu dyrchafiad i Gynghrair yr Adran. Am amser gwirioneddol wych yw hi i fod yn gefnogwr o CPD Wrecsam.

Rwyf am ddiolch i chi i gyd am yr ymdrech aruthrol rydych chi i gyd wedi’i rhoi yn ystod y tymor hwn. Mae’n mynd heb sôn wrth i’r delweddau ar draws y we ac ar y newyddion siarad cyfrolau, ond mae’n rhaid i mi ddweud cymaint rydych chi wedi ein gwneud ni i gyd mor falch.

Fe ddaethoch chi â chymuned gyfan ein dinas at ei gilydd fel un, creu atgofion fydd yn para am oes i bawb oedd yn bresennol, gan ysbrydoli ieuenctid Wrecsam ynghyd a’r wers o beidio byth rhoi’r gorau iddi.

Gan fy mod yn ddeiliad tocyn tymor ers dros bedwar degawd, rwyf wedi gweld llawer o olygfeydd ac wedi teimlo amrywiaeth o emosiynau, ond y golygfeydd a welais yn ddiweddar yw’r melysaf ohonynt i gyd. Mae’r dyfodol gwir yn ddisglair i dimau’r dynion a’r merched ac rwy’n edrych ymlaen at eich cefnogi gyda gweddill Wrecsam.

Unwaith eto mae’n fraint i mi roi fy llongyfarchiadau atoch ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam am eich holl lwyddiannau. Chi yw balchder Wrecsam.

Yr eiddoch yn gywir,

Cyng. Brian Cameron – Maer Wrecsam

Share This Article