Wrth i’r penwythnos agosáu mae’n newyddion da iawn y byddwn wedi symud i Lefel Rhybudd 0 ar ôl  6am bore ‘fory (07.08.21). Mae hyn yn golygu:

  • Diwedd ar y cyfyngiadau cyfreithiol ar nifer y bobl all gyfarfod dan do, yn cynnwys mewn tai preifat, llefydd cyhoeddus a digwyddiadau
  • Caiff pob busnes ac eiddo agor, yn cynnwys clybiau nos
  • Dylai pobl barhau i weithio gartref ble bynnag bosibl
  • Bydd gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol heblaw mewn eiddo lletygarwch.  Bydd hyn yn cael ei gadw dan adolygiad.
  • Ni fydd yn rhaid i oedolion sydd wedi’u brechu’n llawn, plant a phobl ifanc o dan 18 oed ac unigolion sy’n cymryd rhan mewn treialon brechu hunanynysu os ydynt wedi bod mewn cysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi’n bositif am y feirws.

Trefnwch eich apwyntiad brechlyn Covid-19 ar-lein.

Bydd rhai cyfyngiadau pwysig yn aros yn eu lle ac mae’n rhaid i ni i gyd gofio er bod nifer y profion positif, derbyniadau i’r ysbyty a marwolaethau yn ymddangos fel pe baent yn disgyn neu’n gwastatau, mae Covid-19 yn bresennol ym mhob cymuned yma yn Wrecsam a bod angen i ni fod yn ofalus o hyd.

  • Bydd hyblygrwydd o ran pellter cymdeithasol ac mae’n rhaid i fusnesau a sefydliadau fod ag Asesiadau Risg priodol yn eu lle
  • Bydd yn rhaid parhau i ddefnyddio gorchuddion wyneb ar gludiant cyhoeddus yn cynnwys bysus, trenau a thacsis felly cofiwch fynd ag un efo chi pan fyddwch yn mynd allan.

Llyfrgelloedd a Chanolfannau Adnoddau Cymunedol

Am y tro bydd y mesurau Covid-19 presennol yn aros yn eu lle yn ein holl lyfrgelloedd a’n canolfannau adnoddau cymunedol er mwyn rhoi cyfle i staff edrych ar y canllawiau newydd a gweld sut y gallant ddatgloi’n ddiogel ar gyfer defnyddwyr a chymunedau.

Brechlynnau

Diolch i bawb sydd wedi dod ymlaen am y brechlyn; rydym wedi gwneud cynnydd aruthrol yn Wrecsam ac mae nifer y bobl sy’n cael eu dos cyntaf a’u hail ddos yn parhau i godi ochr yn ochr â’r niferoedd ar draws Gogledd Cymru.

Os nad ydych wedi cael eich dos cyntaf neu eich ail ddos gwnewch apwyntiad cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau y cewch y pigiad atgyfnerthu yn barod am fisoedd y gaeaf.

Gallwch wneud apwyntiad yma neu galwch i mewn i ganolfan Catrin Finch ym Mhrifysgol Glyndŵr.

Y diweddaraf ar frechiadau ar gyfer pobl ifanc 16 ac 17 oed

Yn unol â gweinyddiaethau cenedlaethol eraill yn y DU, mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu cyngor diweddaraf y JCVI a diolchodd iddynt am eu harbenigedd a’u barn ystyriol ar faterion mor bwysig.

Byddwn yn cefnogi’r GIG gydag unrhyw drefniadau angenrheidiol i frechu pob unigolyn ifanc 16 ac 17 oed cyn gynted â phosib yn unol â chyngor y JCVI

Cyngor i’r rhai sy’n ansicr ynghylch y brechlyn COVID-19

Os oes gennych unrhyw bryderon am gael y brechlyn, os gwnewch chi drefnu apwyntiad ar-lein  neu fynd i un o’r sesiynau galw heibio, bydd staff yn rhoi amser i drafod eich pryderon gyda chi er mwyn i chi allu gwneud penderfyniad gwybodus am dderbyn y brechlyn ai peidio.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ddibynadwy a chyfredol am y brechlyn COVID-19 ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Os oes gennych symptomau mae’n rhaid i chi hunanynysu o hyd

Er mwyn sicrhau ein bod yn cadw ein cymunedau’n ddiogel mae’n bwysig hunanynysu os oes gennych chi symptomau a threfnu prawf PCR. Gallwch wneud hyn ar lein.

“Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cael y brechlyn”

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd Cyngor Wrecsam:  “Rydym wedi gwneud llawer o gynnydd dros yr ychydig fisoedd nesaf ac ni fyddai wedi bod yn bosibl symud i Lefel Rhybudd 0 heb gefnogaeth aruthrol pawb yng Nghymru ac wrth gwrs yma yn Wrecsam.

“Mae’r rhaglen frechu yn parhau i fod yn llwyddiant ond heb gydweithrediad pawb fe allem fod mewn sefyllfa wahanol iawn heddiw,  felly diolch o galon i bob un ohonoch sydd wedi cael eich brechu.

“Er hynny  nid yw’r siwrnai wedi bod yn un heb ei cholledion ac mae’n rhaid i ni gofio am y rhai a fu farw oherwydd Covid-19 a’r teuluoedd a’r ffrindiau sy’n dal i alaru amdanynt.

“Dylem barhau i fod yn wyliadwrus wrth i ni fyw ein bywydau o ddydd i ddydd er mwyn sicrhau ein bod yn parhau yn sefyllfa yr ydym ynddi ar hyn o bryd.”

Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN