Mae ‘na lawer o gyfleoedd i’ch plant ymuno yn yr hwyl yr haf yma yn ystod cynlluniau gwaith chwarae’r Cyngor, ac mae dyddiad, amser a lleoliadau’r sesiynau ar gael yn ein blog diwethaf.
Ac mae hyd yn oed mwy o bethau i’w gwneud yr haf yma! Fel rhan o Haf o Hwyl bydd rhai o’r sesiynau gwaith chwarae yn cynnwys sgiliau syrcas – mae’r holl fanylion isod.
15 Awst
11am-1pm a 2-4pm
Cefn Mawr (Parc Plas Kynaston, wrth ymyl y llyfrgell)
Morton Circle, Johnstown
23 Awst
10am-1pm a 2-4pm
Rhostyllen (ar y caeau y tu ôl i neuadd y plwyf)
Lle Chwarae Bryncabanau, Hightown
24 Awst
11am-1pm a 2-4pm
Rhodfa Lamberton, Brymbo
Caeau Bradle, Gwersyllt
25 Awst
11am-1pm a 2-4pm
Lle Chwarae Pentre Maelor, Abenbury
Cae Adwy, Coed-poeth
26 Awst
11am-1pm a 2-4pm
Cae Ysgol Acrefair
Lle Chwarae Antur Dyffryn Gwenfro
Mae’r sesiynau gwaith chwarae yn addas i blant 5-12 oed, ond mae croeso i bob plentyn. Mae’n rhaid i oedolyn aros gyda phlant dan 5 oed. Mae croeso i rieni plant hŷn aros hefyd. Mae modd i blant dros 5 oed aros ar eu pen eu hunain, ond mae’n rhaid i rieni/gofalwyr lenwi ffurflen gofrestru yn ystod y sesiwn gyntaf.
Mae’r sesiynau’n amrywio yn dibynnu ar y lleoliad, y tywydd a’r hyn sydd ar y plant eisiau ei wneud ar y diwrnod. Mae’r plant yn gallu baeddu weithiau felly rydym ni’n argymell eu bod yn gwisgo dillad bob dydd sy’n addas i’r tywydd. Mae pob sesiwn yn yr awyr agored ac nid oes gan bob un fynediad at doiledau.
Dydi’r sesiynau chwarae ddim yn fath o ofal plant a chyfrifoldeb y rhieni ydi trefnu nôl y plant a rhoi caniatâd iddyn nhw adael y safle ac ati.
Os oes ar blant angen cymorth ychwanegol i gymryd rhan yn y sesiynau hyn, yna mae gennym ni brosiect cynhwysiant. I fanteisio ar y gwasanaeth yma llenwch ein ffurflen ar-lein er mwyn i aelod o’r tîm gysylltu’n ôl efo chi i drefnu cymorth https://www.wrecsam.gov.uk/service/gofal-cymdeithasol-i-blant/tim-cymorth-chwarae-ac-ieuenctid
Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.
TALU NAWR