Diweddariad ar gyllideb Cyngor Wrecsam
Mae Cyngor Wrecsam wedi bod yn gweithio’n galed i ddarganfod arbediadau ac effeithlonrwydd yn ein cyllideb y flwyddyn hon.
Mae’r sefyllfa ariannol i awdurdodau lleol ledled Cymru yn hynod o anodd ar hyn o bryd.
Drwy weithredu’n gyflym, mae’r cyngor wedi osgoi diffyg posibl o tua £23 miliwn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gyfredol, gyda chynghorwyr a swyddogion yn gweithio’n galed i ganfod ffyrdd o gwrdd â’r her.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Mae pob adran yn cyfrannu at ddod o hyd i’r arbedion hyn, ac rydym yn gweithio’n galed i wneud hyn gan darfu cyn lleied â phosibl ar y cyhoedd.
“Rydyn ni wedi edrych ar lawer o syniadau ac opsiynau, ac er nad oes gennym ni’r atebion i gyd eto, rydyn ni wedi gwneud cynnydd aruthrol.
“Hyd yn hyn rydyn ni wedi nodi o gwmpas hanner o’r arbedion neu’r arbedion effeithlonrwydd sydd eu hangen. Nid yw’n broses ddi-boen, ond nid oes gennym ddewis ond ateb yr her hon yn uniongyrchol.”
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd y Cyngor: “Mae’n synhwyrol i gymryd y camau hyn yn fuan yn hytrach nag yn hwyrach.
“Mae’n gyfnod anodd i gynghorau ar draws y DU ac efallai y bydd yn rhaid i ni wneud rhai penderfyniadau anodd, ond ein nod yw parhau i ddarparu’r gwasanaethau sydd eu hangen ar ein cymunedau lleol.”
Gwybodaeth allweddol
Gwastraff Gwyrdd
Mae’r ffi am gasglu gwastraff gwyrdd wedi’u cynyddu i £35 fesul bin gwyrdd y flwyddyn, fel y cyhoeddwyd yn flaenorol.
Cyllid Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSOs)
Am flynyddoedd lawer rydym wedi helpu i ariannu darpariaeth PCSO (Swyddog Diogelwch Cymunedol yr Heddlu) yng nghanol Dinas Wrecsam, ond ni fyddwn yn gallu gwneud hyn dim mwy oherwydd y penderfyniadau anodd iawn y mae’n rhaid i ni eu gwneud.
Fodd bynnag, byddwn yn parhau i weithio’n agos iawn gyda’r heddlu a phartneriaid eraill fel erstalwm.
Recriwtio
Mae recriwtio ar gyfer swyddi newydd neu wag yn y cyngor wedi’i oedi, a dim ond ar gyfer swyddi allweddol y mae’n cael ei wneud gyda chymeradwyaeth uwch reolwyr.
Mae adolygiad o ddefnydd gweithwyr asiantaeth hefyd ar y gweill.
Lleihau Carbon
Mae trafodaethau gwleidyddol yn parhau ynghylch yr hyn yr ydym yn ei ddatblygu yn y maes hwn.
Byddwn yn parhau i weithio’n galed i leihau teithio diangen gan weithwyr a hyrwyddo ymddygiadau eraill i helpu i leihau ein hôl troed carbon yn Wrecsam.
Dinas Diwylliant
Mae’r Cyngor yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i’n cais am Ddinas Diwylliant 2029. Y gyllideb sydd ar gael fel y cytunwyd arni yn y Bwrdd Gweithredol yn 2022 yw £500k yn 2023/24.
Mae rhaglen o ddigwyddiadau yn cael ei llunio ar hyn o bryd gyda’r Bwrdd Dros Dro a fydd yn cadarnhau eu blaenoriaethau yn y cyfarfod nesaf ym mis Medi.
Mae rhai o’r digwyddiadau sydd ar y gweill ar hyn o bryd yn cael eu trefnu ar gyfer 2023/24 o dan frand Dinas Diwylliant yn cynnwys:
- Wal Goch (gŵyl bêl-droed)
- Gŵyl Gomedi
- Dydd Gŵyl Dewi
Mae Taith Prydain hefyd yn ddigwyddiad arwyddocaol sy’n cyfrannu at y rhaglen Dinas Diwylliant, er bod hwn yn cael ei ariannu o ffynhonnell wahanol.
Llyfrgelloedd
Rydym wedi dod o hyd i ffordd i arbed tua £19k ar lyfrau llyfrgell newydd, ond byddwn yn dal i wario tua £130k ar lyfrau newydd i’n llyfrgelloedd eleni, a bydd gennym fynediad at adnoddau ehangach ar draws consortiwm llyfrgelloedd Gogledd Cymru.
Byddwn yn dal i dderbyn cannoedd o lyfrau newydd bob mis, gan gynnwys copïau o bob un o’r 10 gwerthwr gorau mewn ffuglen a ffeithiol Saesneg, llyfrau plant, llyfrau sain, llyfrau print bras a llyfrau Cymraeg.
Byddwn hefyd yn parhau i brynu a darparu e-lyfrau ac e-lyfrau sain ar-lein trwy ein ap Borrowbox.
Gofal Cymdeithasol
Ni fydd fawr o effaith ar daliadau gofal cymdeithasol i’r cyhoedd a byddant yn parhau i gael eu gweithredu yn unol â’r polisi cenedlaethol ar gyfer ffioedd a thaliadau am ofal cymdeithasol yng Nghymru.
Gwneir rhai arbedion effeithlonrwydd trwy sicrhau bod ffioedd yn parhau i gael eu gweithredu’n deg ar draws Wrecsam.
Ffioedd Meysydd Parcio
Mae ffioedd parcio yn ein meysydd parcio yn dal i gael eu hadolygu ac nid oes penderfyniad gwleidyddol wedi’i wneud eto. Mae trafodaethau’n parhau.