Fe elwodd cymunedau ar draws Wrecsam yn sgil prosiect natur oedd yn canolbwyntio ar lythrennedd carbon a bioamrywiaeth.
Roedd prosiect Go Green 4 Nature yn bartneriaeth rhwng Cyngor Wrecsam, Groundwork Gogledd Cymru a Chanolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore!
Fe’i ariannwyd gan Grant Cymunedau Gwydn Cyfoeth Naturiol Cymru, a daeth â gwelliannau i nifer o fannau gwyrdd ar draws y sir.
Bu’r prosiect hefyd yn gweithio gydag ysgolion i addysgu disgyblion ynglŷn â llythrennedd carbon a bioamrywiaeth, ac fe ddarparodd sawl digwyddiad am ddim i’r cyhoedd.
Gwelliannau i fannau gwyrdd
Mae mannau gwyrdd megis yr ardd do yn Nhŷ Pawb, llethrau Lodge Valley ym Mrymbo, Parciau Gwledig Melin y Nant a Minera i gyd wedi elwa o welliannau yn ystod prosiect Go Green 4 Nature.
Roedd y gwelliannau yma’n cynnwys creu gwelyau plannu, gwella cynefinoedd drwy reoli coetir a glaswelltir, creu ardaloedd i flodau gwyllt a thasgau cynnal a chadw a thwtio cyffredinol.
Daeth gwirfoddolwyr ynghyd o wahanol gefndiroedd i helpu, a dysgu sgiliau newydd gwerthfawr ac i gael profiadau newydd.
Dywedodd Richard Aram, Pennaeth Prosiectau a Chontractau yn Groundwork Gogledd Cymru: “Roedd yn wych gweithio gydag ysgolion a gwirfoddolwyr o’r gymuned leol er mwyn gwella bioamrywiaeth ar draws gwahanol safleoedd yn Wrecsam. Cafodd nifer o fannau gwyrdd eu gwella a chafodd gwirfoddolwyr gyfle i ddysgu amrywiaeth o sgiliau.”
Gweithio ag ysgolion
Ysgolion cynradd
Creodd dîm datblygu Xplore! weithgareddau addysgiadol rhyngweithiol, llawn gwybodaeth a pherthnasol ar gyfer prosiect Go Green 4 Nature. Roedd hi’n bwysig bod disgyblion yn gadael gyda chysylltiad cryfach i’r amgylchedd naturiol a’u hawdurdodi i chwarae rhan weithgar yn y modd y caiff ei reoli.
Creodd Xplore! sesiwn hanner diwrnod o hyd o’r enw WildWatch oedd ar gael i ysgolion cynradd yn Wrecsam fanteisio arno. Mwynhaodd dros 600 o ddisgyblion Blwyddyn 5 a 6 y sesiwn rhwng mis Ionawr 2023 a mis Mawrth 2024, yn cynnwys 60 o blant sy’n cael eu haddysgu gartref.
Yn rhan o WildWatch, cyflwynwyd y testun bioamrywiaeth i blant; yn benodol beth mae’n ei olygu, beth yw ecosystemau a gweoedd bwyd, beth yw pwysigrwydd bioamrywiaeth a sut gellir ei fesur.
Cawsant eu cyflwyno i’r syniad o Ddinesydd Gwyddoniaeth a sut y gall unrhyw un fesur a chasglu data sy’n cael eu hychwanegu at arolygon byd go iawn. Cawsant chwyddwydrau ynghyd â chwadratau a mat llawr mawr yn dangos gwahanol rywogaethau o fflora, ffawna a phryfed a dangoswyd iddynt sut y gallant arsylwi a chyfrif rhywogaethau cyn mynd allan i’r byd go iawn a defnyddio’r theori.
Fe aeth y plant i ganol y ddinas i ddilyn llwybr bioamrywiaeth o amgylch Wrecsam. Cafodd plant eu hannog i adnabod planhigion ac anifeiliaid, tynnu llun ohonynt gyda’u llechen electronig a chofnodi’r casgliadau ar daflen arolwg. Yna fe wnaethant alw heibio Llwyn Isaf lle cawsant ddefnyddio eu sgiliau arolygu.
Fe atgoffwyd y plant yr hyn yr oeddynt wedi’i ei ddysgu ac fe roddwyd yr her nesaf iddynt. Y dasg iddynt oedd ail ddylunio’r cae i gynyddu bioamrywiaeth heb gyfaddawdu ar unrhyw beth oedd yno eisoes megis y bandstand, ac roedd angen iddynt ystyried sut y dylid edrych ar ôl eu dyluniad ar ôl iddo gael ei gwblhau.
Roedd Xplore! yn awyddus na fyddai’r dysgu yn gorffen ar ôl yr un sesiwn, felly fe wnaethant roi adnoddau i bob dosbarth fynd yn ôl gyda nhw er mwyn iddynt barhau i archwilio ar ôl mynd yn ôl i’r ysgol.
Meddai Katie Williams, Swyddog Datblygu Busnes Xplore!: “Gan fod cyllidebau ysgolion mor dynn ar hyn o bryd, rydym ni bob amser yn hapus pan fydd cyllid yn galluogi plant i fynd ar drip ysgol diddorol. Roedd y prosiect yn gyfle i ni ddatblygu gweithdy heb ei debyg, gan alluogi i ni fynd allan i ganol natur boed law neu hindda tra’n roi cyfle i’r plant gael dealltwriaeth well o gynefinoedd gwahanol fywyd gwyllt yn lleol.”
Meddai Claire Evans o Ysgol Pentre yr Eglwys yng Nghymru: “Fe fwynhaodd ein disgyblion y sesiwn WildWatch. Roeddem ni wrth ein bodd yn cyfrif anifeiliaid a phlanhigion. Roedd gen i ddiddordeb defnyddio ein hardal leol i ddarganfod bioamrywiaeth.”
Meddai Danielle Weigh o Ysgol Gynradd Gymuned Froncysyllte: “Roedd o’n ddiwrnod gwych yn llawn gweithgareddau hwyliog a heriol. Roedd y plant wrth eu boddau ac fe wnaethant fwynhau’r gweithgareddau dan do a’r rhai awyr agored a ddarparwyd.”
Meddai Alison King o Ysgol Gynradd Gwenfro: “Roedd o’n drip gwych oedd yn llawn gwybodaeth a hwyl. Roedd hi’n ffantastig cael y plant yn yr awyr agored.
Meddai Sarah Jones o Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir yr Hollsaint: “Fe fu’r plant yn cymryd rhan mewn gweithdy diddorol am fioamrywiaeth a fydd yn cynorthwyo eu dysgu yn ôl yn yr ysgol.”
Meddai Josie Edwards o Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru St Peter, Yr Orsedd: “Roedd hi’n sesiwn bwysig iawn ac yn brofiad ymarferol gwych.”
Ysgolion uwchradd
Canolbwyntiodd y gwaith gydag ysgolion uwchradd ar addysgu disgyblion am lythrennedd carbon a bioamrywiaeth.
Cymerodd plant o wahanol ysgolion ran mewn gweithdai llythrennedd carbon a sesiwn ymarferol i wella ardaloedd ar gyfer bioamrywiaeth ar dir eu hysgol. Roedd hyn yn cynnwys plannu coed, rheoli glaswelltiroedd, hau blodau gwyllt, creu pwll a chreu gaeafleoedd.
Digwyddiadau cyhoeddus
Cynhaliwyd amrywiaeth o ddigwyddiadau cyhoeddus hefyd trwy gydol y prosiect, a’r cyfan ar thema carbon neu fioamrywiaeth.
Roedd y rhain yn cynnwys gweithdai sut i bladuro, teithiau cerdded paleontoleg, teithiau cerdded chwilota, sesiynau crefftau natur hydrefol, gweithdai crefft borderi pren a sesiynau creu torchau.
Roedd y digwyddiadau yn rhai agored ac am ddim, ac fe wnaethant helpu pobl i wella eu sgiliau a chynyddu gwybodaeth am fioamrywiaeth a llythrennedd carbon.
“Gwaith ardderchog yn ymwneud â llythrennedd carbon”
Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd a Chefnogwr yr Hinsawdd: “Fe wnaed gwaith ardderchog o ran llythrennedd carbon gyda phrosiect Go Green 4 Nature drwy’r addysg mewn ysgolion a thrwy nifer o ddigwyddiadau cyhoeddus am ddim a ddarparwyd. Mae prosiectau pwysig fel Go Green 4 Nature yn helpu i godi ymwybyddiaeth am yr argyfwng hinsawdd.”
Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Cafwyd gwelliannau mewn nifer o fannau gwyrdd yn Wrecsam yn sgil prosiect Go Green 4 Nature, gan gynyddu ein bioamrywiaeth, ac fe helpodd gyda dealltwriaeth am bwysigrwydd edrych ar ôl yr amgylchedd. Rydym ni wrth ein bodd gyda’r hyn mae’r prosiect wedi llwyddo i’w gyflawni.”
Grymuso Cynaliadwyedd: Siwrnai Lleihau Carbon Ysgol Gynradd Yr Holl Saint – Newyddion Cyngor Wrecsam
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.