Bob blwyddyn mae ein Ceidwaid yn draenio’r pwll dŵr Stryt Las yn Johnstown.
Maent yn gwneud hyn i lanhau gwely’r llyn yn da a thynnu unrhyw bysgod sy’n cael eu rhwydo gan Gyfoeth Naturiol Cymru ac yn cael eu hadleoli i bwll neu lyn arall sydd angen stoc. Mae’r pysgod yn cael eu symud i’w hatal rhag bwyta’r Madfallod Dŵr Cribog prin sy’n byw ar y safle.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Mae’r sbwriel yn hyll ac yn aml yn beryglus i’r adar niferus sy’n byw ar y llyn yn Stryt Las. Dros y blynyddoedd rydym ni wedi tynnu arwyddion traffig, beiciau, miloedd o ganiau a photeli a’r trolïau siopa hynod boblogaidd o’r mwd.
Mae’r hwyaid a’r elyrch sy’n byw ar y llyn yn Stryt Las yn rhydd i hedfan i byllau eraill, fel y maen nhw’n ei wneud yn aml, a dychwelyd yno’n nes ymlaen. Mae’r ceidwad yn gofyn i ymwelwyr beidio â bwydo’r hwyaid. Mae bwydo’r hwyaid a’r elyrch yn annog yr adar i fod yn llai ofnus o bobl, ac mae hynny’n eu gwneud yn fwy agored i niwed, yn enwedig gan gŵn – problem sy’n codi’n aml tra mae’r llyn yn cael ei ddraenio.
”Mae Stryt Las yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig”
Dywedodd y Cyng. David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae Stryt Las yn Ardal Cadwraeth Arbennig penodol ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ac rydym yn ffodus iawn o gael y fath ardal ar ein stepen drws. Mae’r ceidwaid yn wych am ofalu am yr ardal a bydd ymwelwyr rheolaidd i’r parc wedi arfer gyda’r digwyddiad blynyddol hwn o lanhau.”
Os hoffech chi helpu’r ceidwaid i lanhau’r llyn, ffoniwch nhw ar 01978 822780. Ar ôl dal y pysgod a chlirio’r sbwriel, bydd y llyn yn cael ei adael i ail-lenwi’n naturiol.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN