I ddathlu Diwrnod Amrywiaeth Diwylliannol y Byd ar 21 Mai mae Tîm Cydlyniant Rhanbarthol Gogledd Ddwyrain Cymru yn eich gwahodd i gymryd rhan yn Rhannu o Gartref – arddangosfa ar-lein o ffotograffau, lluniau a pheintiadau o’r traddodiadau diwylliannol yr ydym ni’n eu dilyn gartref pob dydd ac yn ymfalchïo ynddyn nhw.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ffotograffau, lluniau a pheintiadau ydi dydd Mawrth 19 Mai, ac mae’n bosibl y caent eu cynnwys pan fydd y casgliad yn mynd yn fyw.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf mae llawer ohonom ni wedi bod yn treulio mwy o amser yn ein cartrefi. Mae hyn wedi bod yn heriol mewn sawl ffordd, ond mae hefyd wedi bod yn gyfle i ni fyfyrio ar y pethau rydym ni’n eu gwerthfawrogi fwyaf am fod gartref.
Dyma ychydig o syniadau i’ch helpu chi gychwyn arni…
I gymryd rhan y cwbl sydd arnoch chi angen ei wneud ydi anfon eich eitemau at Dîm Cydlyniant Rhanbarthol Gogledd Ddwyrain Cymru i onewrexham@wrexham.gov.uk. Cofiwch, mae gennych chi tan ddydd Mawrth 19 Mai i wneud hyn.
Cofiwch hefyd gadw golwg am y casgliad llawn pan fydd yn cael ei lansio ar 21 Mai!
Pob hwyl i chi ????
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19