Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sut allwch chi nodi Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop (VE) dydd Gwener yma (8 Mai)
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Sut allwch chi nodi Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop (VE) dydd Gwener yma (8 Mai)
Arall

Sut allwch chi nodi Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop (VE) dydd Gwener yma (8 Mai)

Diweddarwyd diwethaf: Mai 6, 2020 4:51 pm
Rhannu
Darllen 6 funud
VE Day
RHANNU
Y Cynghorydd David Griffiths – Cefnogwr y Lluoedd Arfog – Cyngor Wrecsam

Saith deg pum mlynedd yn ôl, cafwyd heddwch ar draws Ewrop ar ôl bron i chwe blynedd o ryfela ffyrnig.

Cynnwys
        • Y Cynghorydd David Griffiths – Cefnogwr y Lluoedd Arfog – Cyngor Wrecsam
  • Helpu Wrecsam i ddathlu Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop
  • 10 ffordd i ddathlu gartref…
      • 1. Cymryd rhan mewn dau funud o dawelwch (11am)
      • 2. Cynnal parti â thema Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop gydag aelodau o’ch aelwyd
      • 3. Ymunwch â ffrwd byw Y Lleng Brydeinig Frenhinol (11.15am)
      • 4. Dysgu’r Lindi Hop (12pm)
      • 5. Gweddnewidiad o’r 1940au (2pm)
      • 6. Gwrandewch ar anerchiad Winston Churchill (3pm)
      • 7. Ewch ar wefan Amgueddfa Ryfel Imperialaidd
      • 8. Gwyliwch yr hanesydd Dan Snow (4pm)
      • 9. Gwyliwch neges Y Frenhines ar y teledu (9pm)
      • 10. Cymryd rhan mewn ymgyrch genedlaethol i gyd-ganu ‘We’ll Meet Again’
  • Arhoswch gartref

I’r mwyafrif ohonom, mae’n anodd dychmygu sut deimlad oedd hynny.

Yn ogystal â’r anafiadau, marwolaethau a dioddefaint a ddioddefwyd ar faes y gad, mewn dinasoedd a ddinistriwyd gan y bomiau, mewn getoau a gwersylloedd carchardai, roedd yna galedi emosiynol, cymdeithasol ac economaidd ym mhob cymuned.

Bu farw anwyliaid pobl. Gwaethygodd iechyd pobl. Diflannodd swyddfeydd a gyrfaoedd addawol. Collodd nifer o bobl eu cartrefi. Roedd bwyd a dillad yn brin. Roedd yn ‘normal newydd’.

Felly dychmygwch y teimlad – am 2.45pm ar 8 Mai yn 1945 – pan gyhoeddodd Winston Churchill fod Yr Almaen wedi ildio.

Roedd yr hunllef yn Ewrop drosodd o’r diwedd, ac mae’n rhaid ei fod yn foment anhygoel o orfoledd a rhyddhad.

Mae’n rhaid ei fod yn amser trist iawn hefyd. Roedd hi’n amlwg fod cymaint o bobl wedi colli eu dyfodol…nid oedd modd iddynt fyw y bywyd y dylent fod wedi’i fyw.
Er bod y niferoedd yn lleihau’r dyddiau hyn, mae yna rhai o’n plith a fu’n byw drwy’r rhyfel.

Cyn-filwyr a fu’n gwasanaethau yn y lluoedd arfog, pobl a fu’n cynnal y wlad nôl gartref, a’r rhai oedd yn blant a dyfodd i fyny yn ystod y blynyddoedd hynny.

Mae arnom ni gymaint o ddiolch a pharch i’r bobl yma, a’r rhai sydd wedi’n gadael ni…gymaint mwy nag y gallwn ni ei ad-dalu.

A rŵan, yn fwy nag erioed, fe allwn ni gael ein hysbrydoli gan yr hyn y gwnaethon nhw.

Helpu Wrecsam i ddathlu Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop

Mae un o’r heriau mwyaf mewn hanes y mae’r wlad wedi ei wynebu – pandemig Covid-19 wedi ein hatal rhag nodi 75 mlynedd ers y diwrnod hwnnw yn y modd yr oeddem wedi’i obeithio.

Mae parti strydoedd a digwyddiadau cyhoeddus ledled y DU wedi cael eu canslo, ac yma yn Wrecsam bu’n rhaid i ni ganslo cynlluniau i nodi’r achlysur mewn steil…dod ag awyren Spitfire i Llwyn Isaf.

Ond nid yw hynny’n golygu na allwn ni ddangos ein parch a’n cefnogaeth i’n lluoedd arfog…tra’n parhau i aros adref, achub bywydau ac amddiffyn y GIG.
Felly os gwelwch yn dda…helpwch Wrecsam i nodi’r achlysur pwysig iawn.

Dyma rywfaint o syniadau ynglŷn â sut i ddathlu Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop o ddiogelwch eich cartref.

10 ffordd i ddathlu gartref…

VE Day

1. Cymryd rhan mewn dau funud o dawelwch (11am)

Fe fydd yna ddau funud o dawelwch ar draws y wlad am 11am i gofio’r rhai a aberthodd eu bywydau neu fu’n byw drwy’r rhyfel.

Bydd nifer ohonom yng Nghyngor Wrecsam yn cymryd rhan. Cymerwch ran os allwch chi.

2. Cynnal parti â thema Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop gydag aelodau o’ch aelwyd

Mae Llywodraeth Y DU wedi creu canllaw defnyddiol a hwyliog, sydd yn cynnwys ryseitiau, gemau, posteri, byntin a gweithgareddau creadigol eraill!

3. Ymunwch â ffrwd byw Y Lleng Brydeinig Frenhinol (11.15am)

Ewch i wneud paned o de ac ymunwch a’r Lleng am ddarllediad ffrwd byw 80 munud o hyd – rhannu straeon ac atgofion gan y rhai a wasanaethodd ac a aberthodd yn ystod y rhyfel, yn ogystal â chydnabod anawsterau y mae pobl yn eu hwynebu heddiw.

4. Dysgu’r Lindi Hop (12pm)

Dysgwch y Lindi Hop gyda gwers dawns fyw English Heritage. Bydd Nancy Hitzig yn eich helpu i ddysgu’r ddawns oedd yn boblogaidd yn ystod y rhyfel. Cofrestrwch rŵan!

5. Gweddnewidiad o’r 1940au (2pm)

Mwynhewch weddnewidiad wedi’i ysbrydoli o gyfnod yr ail ryfel byd gyda thiwtorial ar-lein gan English Heritage!

6. Gwrandewch ar anerchiad Winston Churchill (3pm)

Gwrandewch ar anerchiad gwreiddiol Churchill i’r wlad sy’n cael ei ddarlledu ar y BBC am 3pm ddydd Gwener. Felly, codwch wydr neu baned i nodi’r achlysur!

7. Ewch ar wefan Amgueddfa Ryfel Imperialaidd

Yng Nghanolfan Fuddugoliaeth yr Amgueddfa mae cynnwys diddorol iawn am ddigwyddiadau haf 1945 a thu hwnt – yn cynnwys casgliadau personol am Ddiwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop gan y bobl oedd yno.

8. Gwyliwch yr hanesydd Dan Snow (4pm)

Gwyliwch YouTube yn fyw wrth i Dan Snow ein tywys drwy’r digwyddiadau wrth iddynt ddigwydd yn 1945.

9. Gwyliwch neges Y Frenhines ar y teledu (9pm)

Bydd Ei Mawrhydi’r Frenhines yn annerch y genedl am 9pm – yr union adeg y rhoddodd ei thad, Brenin George VI, anerchiad ar y radio yn 1945.

10. Cymryd rhan mewn ymgyrch genedlaethol i gyd-ganu ‘We’ll Meet Again’

Ymunwch â’ch cymdogion ar stepen eich drws i gymryd rhan mewn ymgyrch genedlaethol i gyd-ganu ‘We’ll Meet Again’.

Arhoswch gartref

Gobeithio y bydd rhai o’r syniadau yma yn eich ysgogi i helpu Wrecsam a gweddill y DU i ddathlu dydd Gwener.

Meddyliwch am y rhai a aberthodd eu bywydau, dysgwch gan y rhai a fu’n byw drwy’r cyfan, ac ewch at i gael hwyl!

A chofiwch…

Aros gartref. Achub bywydau. Amddiffyn y GIG.

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/”] Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Council Tax Ydych chi’n rhentu’n breifat neu yn landlord? Sut i ddelio â phroblemau sy’n ymwneud ag eiddo yn ystod COVID-19
Erthygl nesaf Mae Rhannu o Gartref yn arddangosfa ar-lein y gallwch chi fod yn rhan ohoni Mae Rhannu o Gartref yn arddangosfa ar-lein y gallwch chi fod yn rhan ohoni

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Mayor of Wrexham receiving a PSA screening test
ArallPobl a lle

Maer yn cefnogi digwyddiad sgrinio canser y prostad

Gorffennaf 28, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Gorffennaf 22, 2026
North Wales Police in Wrexham city centre
Arall

Diogelwch merched a genethod yn parhau bod yn ganolbwynt allweddol yn Wrecsam yr haf hwn

Gorffennaf 16, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English