Bellach, FOCUS Wales yw digwyddiad mwyaf y diwydiant cerddorol yng Nghymru, gyda thri diwrnod o gerddoriaeth, paneli, sgyrsiau, ffilm a chelf, bydd yna dros 250 o artistiaid a 250 o gynrychiolwyr y diwydiant cerddorol yn dod i Wrecsam o bedwar ban byd.
Mae ceisiadau perfformio FOCUS Wales 2020 bellach yn agored i artistiaid byd-eang drwy www.focuswales.com
Roedd 240 perfformiad yng ngŵyl 2019, gydag artistiaid yn teithio ar draws y byd o wledydd gan gynnwys Canada, Corea, Ffrainc, Catalonia, UDA, Estonia, Ffindir, Iwerddon a llawer mwy yn perfformio gyda phrif berfformwyr gan gynnwys Neck Deep, Cate Le Bon, Boy Azooga, The Lovely Eggs, Snapped Ankles, BC Camplight, 9Bach, a Kero Kero Bonito. Mae perfformiadau 2020 yn addo bod y gorau eto, gyda pherfformiadau arbennig ar gyfer pen-blwydd yr ŵyl yn 10 oed. Bydd y 50 perfformiad cyntaf ar gyfer 2020 yn cael eu dewis fis Medi, felly anogir artistiaid sy’n gobeithio perfformio yn yr ŵyl i gyflwyno eu ceisiadau yn gynnar.
Roedd nifer y cynrychiolwyr o’r diwydiant oedd yn bresennol wedi cynyddu’n sylweddol yn 2019, gan gynnwys 200 o ymgeiswyr o wyliau, asiantaethau a’r cyfryngau fel Gŵyl Glastonbury, Eurosonic, Gŵyl Werin Caergrawnt, BBC 6 Music, M for Montreal, BreakOut West a llawer mwy. Gyda rhaglen gynhadledd ehangach wedi’i threfnu ar gyfer 2019, bydd y nifer o ymgeiswyr heb amheuaeth yn cynyddu eto. Bydd FOCUS Wales yn gwneud cyhoeddiadau ynglŷn â’r rhaglen a siaradwyr yn yr hydref.
Mae tocynnau bellach ar werth drwy focuswales.com am brisiau buan iawn, yn dechrau o £30 yn unig ar gyfer tocyn safonol i’r ŵyl ac £80 ar gyfer tocyn cynrychiolwyr.
“Dyma oedd gan eraill i’w ddweud am FOCUS Wales”
“Mae’n ffigar-êt adloniant anhygoel a byddai Cymru ar goll hebddo.” – Gigwise
“Mae FOCUS Wales yn ddigwyddiad gwirioneddol rhyngwladol, sy’n cynnig llwyfan ar gyfer rhai o berfformiadau anhygoel o amgylch y byd. Gyda rhifyn degfed pen-blwydd y flwyddyn nesaf yn addo bod hyd yn oed yn fwy ac yn well nag o’r blaen, nid yw Mai 2020 yn gallu cyrraedd yn ddigon buan!”
– Under The Radar
Cynhelir FOCUS Wales 2020 ar 7, 8 a 9 Mai mewn sawl lleoliad yn Wrecsam, Gogledd Cymru. Mae bandiau arddwrn mynediad 3 diwrnod llawn ar gael ar gyfer holl ddigwyddiadau FOCUS Wales ar www.focuswales.com/tickets a gefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar Gynllun y Cyngor, cliciwch yma
DWI ISIO MYNEGI FY MARN!
DOES DIM OTS GEN