Mae busnes lleol poblogaidd sydd wedi’i leoli ym marchnad Tŷ Pawb yn dathlu ar ôl ehangu i siop maint llawn.
Wedi’i reoli gan Wendy Scott, mae Stashbusters (rhan o Wintergreen CIC) yn siop elusen cyflenwadau celf – y cyntaf o’i fath yn Wrecsam.
Maent yn derbyn rhoddion o hen ddeunyddiau celf a chrefft – unrhyw beth sydd â bywyd ynddo o hyd!
Yna gall prynwyr brynu cyflenwadau celf am bris gostyngol, gyda’r holl elw yn cael ei roi i brosiectau celf cymunedol, a ddanfonir trwy fenter gymunedol Wintergreen CIC.
Ers agor gyntaf ym marchnad Tŷ Pawb fis Rhagfyr diwethaf, mae’r siop wedi derbyn ymateb gwych gan siopwyr ac wedi tyfu o nerth i nerth.
Yn fuan, tyfodd Stashbusters yn rhy fawr i’w stondin farchnad wreiddiol a symud i uned fwy yn Tŷ Pawb ym mis Mawrth eleni.
Nawr, llai na 9 mis ar ôl iddynt agor gyntaf, mae Stashbusters wedi ehangu eto! Maent wedi symud i siop maint llawn yn Arcêd De Tŷ Pawb – eu hadeilad mwyaf hyd yn hyn.



Prisiau fforddiadwy a manteision i’r gymuned gyfan
“Nid yw fel lleoedd eraill,” eglura Wendy. “Rydym am lenwi bwlch yn y farchnad ar gyfer cyflenwi deunyddiau celf a chrefft mewn ffordd gynaliadwy ac am brisiau fforddiadwy gyda manteision ehangach i’r gymuned gyfan.
“Ers agor, rydym wedi cael cefnogaeth wych gan grefftwyr lleol brwd sydd eisiau iddo fod yn brosiect hirhoedlog. Rydym wedi gallu gweithio gyda Tŷ Pawb ar nifer o brosiectau celf cymunedol, gyda chymorth eu swyddog Cysylltydd Cymunedol. Roedd hyn yn cynnwys prosiect “Harddu” yr Eglwys Genedlaethol, lle gwnaethom wahodd crefftwyr lleol i helpu i greu arddangosfa o flodau wedi’u gwau a’u crosio. Cafodd ein prosiect ei amlygu fel enghraifft wych gan dîm yr eisteddfod a chawsom ein cynnwys hyd yn oed ar y newyddion cenedlaethol.
“Bydd ein cartref newydd yn Arcêd y De yn rhoi’r lle i dyfu’r busnes hyd yn oed yn fwy – mae gennym ddigon o syniadau ar gyfer prosiectau mwy cyffrous. Rydym wrth ein bodd i ymuno â grŵp gwych o fusnesau lleol yma yn yr arcêd ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu digon o siopwyr newydd.”
Marchnad Tŷ Pawb yn ‘fan cychwyn i lwyddiant’ i fusnesau newydd
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, yr Aelod Arweiniol sy’n gyfrifol am Tŷ Pawb: “Llongyfarchiadau mawr i Wendy. Mae Stashbusters yn fodel arloesol a chreadigol gwych ar gyfer siop leol – yn berffaith ar gyfer marchnad Tŷ Pawb ac yn enghraifft wych o sut y gall busnesau newydd sbon ddefnyddio model marchnadoedd Tŷ Pawb fel man cychwyn i lwyddiant.
“Stashbusters yw’r stori lwyddiant ddiweddaraf mewn pennod hynod gadarnhaol i Arcêd De Tŷ Pawb. Eleni, mae dau fusnes lleol, Kasai Studios a Hair Do’s, wedi ymuno â masnachwyr rhagorol presennol yr Arcêd – Gemini Blinds, Crystal Point Piercing, Hair By Renia ochr yn ochr â Chanolfan Ymwelwyr Wrecsam.
“Mae RTO Clothing Alterations hefyd wedi ehangu’n ddiweddar i siop fwy yn Arcêd y De, ar ôl symud o stondin yn y brif neuadd farchnad, a byddwn yn fuan yn croesawu busnes bwyd a diod newydd sbon a fydd wedi’i leoli yn yr uned gaffi wrth ymyl y Ganolfan Ymwelwyr ar ddiwedd yr Arcêd.”