“Mae economi Wrecsam yn mynd o nerth i nerth, wrth i lawer o fusnesau barhau i ffynnu a buddsoddi yn y ddinas…”
Dyna’r neges gan Gyngor Wrecsam yn dilyn ymweliad diweddar gan y Cynghorydd Nigel Williams â ffatri ddofednod Maelor Foods yn Cross Lanes, sy’n prosesu tua miliwn o adar ag ardystiad y Tractor Coch Prydeinig yr wythnos ar gyfer y diwydiant bwyd.
Mae’r cwmni’n gyflogwr mawr yn Wrecsam, gan ddarparu dros 250 o swyddi. Mae hefyd yn gobeithio cynyddu gweithrediadau yn y dyfodol, gan greu 125 o swyddi pellach o bosibl a rhoi hwb o £13 miliwn i’r economi leol.
Mae’r Cynghorydd Williams, yr Aelod Arweiniol dros yr Economi, Busnes a Thwristiaeth, yn ymweld â chyflogwyr lleol yn rheolaidd i helpu i ddeall eu dyheadau a’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Meddai: “Hoffwn ddiolch i Maelor Foods am fy ngwahodd i’w safle yn Cross Lanes, ac mae’n wych gweld busnes arall yn ffynnu yn Wrecsam.
“Mae’r cyfleuster yn ffatri brosesu o’r radd flaenaf, ac mae ymrwymiad y cwmni i’r safle yn enghraifft arall o’r hyder enfawr sy’n helpu i yrru ein heconomi leol.
“Roedd yn ymweliad diddorol a llawn gwybodaeth, ac yn gyfle gwych i ddysgu mwy am ethos a nodau’r cwmni.”
Mae’r cyngor yn gweithio gyda chwmnïau lleol i’w helpu i fanteisio’n llawn ar gael eu lleoli yn y fwrdeistref sirol, ac yn ddiweddar cynhaliodd gynhadledd rhwydweithio llwyddiannus yng ngwesty’r Ramada Plaza.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Cwmni, Ricky Mehta: “Yn Maelor Foods, rydym yn falch o chwarae rhan sylweddol yn economi ffyniannus Wrecsam.
“Ar hyn o bryd mae ein cyfleuster arloesol yn prosesu miliwn o adar ag ardystiad y Tractor Coch Prydeinig bob wythnos, ac rydym wrthi’n mynd ar drywydd cynlluniau i ddyblu ein gallu prosesu.
“Wrth i ni edrych tua’r dyfodol, rydym yn parhau i ganolbwyntio ar gefnogi’r gymuned a chyfrannu at lwyddiant parhaus Wrecsam.”
Dywedodd y Cynghorydd Williams: “Mae economi Wrecsam yn mynd o nerth i nerth, wrth i lawer o fusnesau barhau i ffynnu a buddsoddi yn y ddinas.
“Ond fel cyngor, mae’n bwysig ein bod yn mynd allan ac yn ymweld â busnesau, fel y gallwn ddeall a chefnogi twf economaidd.”