Mae Ysgol Maes y Mynydd yn Rhos yn edrych am rywun brwdfrydig a llawn cymhelliant i fod yn lanhawr parhaol.
Bydd y gwaith cyn i’r ysgol agor rhwng 5.15 am – 7.45 am a bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn hyblyg o ran eu hagwedd at y swydd a phatrymau gweithio.
Mae’r amrywiaeth o waith yn cynnwys glanhau pob ystafell, y toiledau, y coridorau, y grisiau, y swyddfeydd ac unrhyw ardaloedd eraill sy’n cael eu defnyddio, yn ôl cyfarwyddiadau’r Goruchwyliwr Ardal.
Dysgwch fwy am yr hyn a ddisgwylir yma.
Mae’r swydd yn un tymor ysgol yn unig am 12.5 awr yr wythnos.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 27 Chwefror 2022.
Os oes gennych ymholiadau am y swydd, cysylltwch â Tiffany Underhill ar 01978 315643
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo’u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.
Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.