Mae Tattoo Cymru yn dychwelyd i Neuadd William Aston yr hydref hwn, gan ddod â noson o gerddoriaeth, gorymdeithio a dathlu i Wrecsam Ddydd Sadwrn 4 Hydref 2025.
Bydd Tattoo eleni yn talu teyrnged i’r Llu Awyr Brenhinol – gan anrhydeddu eu buddugoliaethau, eu straeon, a’u haberth. Bydd y rhaglen eleni yn dwyn ynghyd amrywiaeth eang o berfformiadau, o fandiau pres ac arddangosfeydd corawl, i arddangosfeydd manwl gywir a dawnsio traddodiadol o Iwerddon a Chymru.
Mae rhestr berfformio swyddogol Tattoo Cymru yn cynnwys rhai o berfformwyr milwrol a sifil gorau’r DU, gan gynnwys:
- Côr Meibion y Fron
- Corfflu Drymiau y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig
- Pibau a Drymiau Cymdeithas Gwarchodlu’r Alban
- Corfflu Drymiau a Band Gwirfoddolwyr Swydd Efrog
- Band Pres Acceler8
- Cymdeithas George Formby
- Band Adain RAFAC a Chorfflu Drymiau Manceinion Fawr
- Tîm Dril RAFAC Manceinion Fawr
- Cadetiaid Môr Tameside
- Ysgol Ddawnsio Wyddelig Emmay
Yn ychwanegu amrywiaeth i’r noson bydd y ddeuawd gain Lumiere, a pherfformiadau unigol gan Natalie Kent, Ava Gordon Butler, Drew McKay a Daniel Jones, ynghyd â Gareth Casey Morris. Uchafbwynt arbennig fydd detholiad o ganeuon o’r sioe boblogaidd yn y West End a Broadway, Operation Mincemeat.
Dwedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Pencampwr y Lluoedd Arfog: “Mae Tattoo Cymru bob amser yn uchafbwynt yng nghalendr digwyddiadau Wrecsam, ac mae’r deyrnged eleni i’r Llu Awyr Brenhinol yn ei gwneud yn arbennig o ystyrlon.
Mae’n ffordd wych o ddod â phobl at ei gilydd, dathlu doniau ein perfformwyr milwrol a chymunedol, a myfyrio ar y straeon a’r aberth a wnaed gan y rhai a wasanaethodd.”
I’r rhai sydd wedi bod o’r blaen, mae Tattoo Cymru yn gyfle i brofi’r egni, y sgil a phasiant yr hyn sy’n ei wneud yn achlysur mor amlwg ar galendr digwyddiadau Wrecsam. I rai fydd yn ymweld am y tro cyntaf, mae’n gyfle i weld cymysgedd unigryw o draddodiad a pherfformiad na ddowch ar ei draws yn unman arall yng ngogledd Cymru.
Manylion y Digwyddiad
Dyddiad: Dydd Sadwrn 4 Hydref 2025
Amser: Drysau’n agor am 7.00PM – Perfformiad yn dechrau 7.30PM
Lleoliad: Neuadd William Aston, Wrecsam
Mae tocynnau ar gael i’w prynu trwy wefan Neuadd William Aston: https://williamastonwrexham.com/cy/event/tattoo-cymru