Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae Trafnidiaeth Cymru yn gofyn i deithwyr barchu staff a dilyn y cyngor diweddaraf
Rhannu
Notification Show More
Latest News
Councillor Nigel Williams visits The Uncommon Practice
Busnes arbennig o dda ;)
Busnes ac addysg
Hands
Ymgyrch John i’r rheini sy’n byw gyda Dementia
Y cyngor Fideo Pobl a lle
The Guildhall, Wrexham
Cyngor Wrecsam yn ystyried mwy o gynigion i arbed costau wrth i’r wasgfa ariannol aruthrol barhau
Y cyngor
Council Tax
Siapio dyfodol Treth y Cyngor yng Nghymru
Y cyngor Fideo Pobl a lle
20mph
Gallwch gael eich cosbi am ddifrodi neu symud arwyddion 20mya
Y cyngor Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Mae Trafnidiaeth Cymru yn gofyn i deithwyr barchu staff a dilyn y cyngor diweddaraf
ArallPobl a lle

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gofyn i deithwyr barchu staff a dilyn y cyngor diweddaraf

Diweddarwyd diwethaf: 2021/04/29 at 5:47 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
Wrexham Chester Shrewsbury
Wrexham General railway Station
RHANNU

Erthygl gwadd – “Mae Trafnidiaeth Cymru”

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gofyn i deithwyr barchu ei staff a dilyn y cyngor teithio diweddaraf i sicrhau teithiau diogel a dymunol i bawb sy’n teithio’r penwythnos hwn.

Disgwylir y bydd rhwydwaith Cymru a’r Gororau yn brysur yn dilyn ailagor tafarndai, caffis a bwytai yng Nghymru ar gyfer lletygarwch yn yr awyr agored.

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

Mae nifer y teithwyr wedi codi i dros 60% o’r lefelau cyn COVID mewn rhai o orsafoedd TrC dros yr wythnosau diwethaf, ac mae hyn wedi arwain at gynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Dywedodd Joshua Hopkins, sef rheolwr cadernid gweithredol TrC: “Yn anffodus, mae lleiafrif bach o bobl yn dal i ddewis rhoi eu hunain, teithwyr eraill a’n staff mewn perygl drwy ymddygiad gwrthgymdeithasol ar ein gwasanaethau ac mewn gorsafoedd.

“Bydd gennym bresenoldeb cryf o staff TrC, staff diogelwch a Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar draws y rhwydwaith i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn amgylchedd diogel i bobl sy’n dymuno teithio.

“Mae systemau ciwio ar waith a mesurau eraill i reoli torfeydd ac mae’n bwysig bod pobl yn parchu ac yn gwrando ar ein staff bob amser.

“Mae gan ein staff yr hawl i wrthod teithio os yw pobl yn bod yn ymosodol neu os ydyn nhw’n rhy feddw i deithio.

“Rydyn ni’n annog pawb i ddilyn ein cyngor Teithio’n Saffach, gwirio amserlenni, cynllunio ymlaen llaw, cadw pellter cymdeithasol, gwisgo masg (oni bai eich bod wedi’ch eithrio) a defnyddio ein Gwiriwr Capasiti.”

Mae’r Gwiriwr Capasiti yn helpu ein teithwyr i weld pa drenau sy’n aml yn llawn a pha rai sydd â digon o seddi ar gael, er mwyn i bobl allu penderfynu ar yr amser gorau ar gyfer eu taith.

Transport for Wales

Dywedodd Richard Powell, sef Arolygydd Heddlu Trafnidiaeth Prydain: “Ein prif flaenoriaeth yw cadw teithwyr a staff y rheilffyrdd yn ddiogel. Rydyn ni’n parhau i batrolio’r rhwydwaith, gan wneud yn siŵr bod y rheini sy’n defnyddio’r rheilffordd yn gallu gwneud hynny’n ddiogel.

“Bydd swyddogion hefyd yn atgoffa teithwyr o bwysigrwydd gwisgo gorchudd wyneb ar drenau ac mewn gorsafoedd, oni bai eu bod wedi’u heithrio. Os oes angen i chi gysylltu â ni, anfonwch neges destun at 61016 neu ffonio 0800 40 50 40.”

???? Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.????

Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF

Rhannu
Erthygl flaenorol Letter being opened Rhybudd: anfonwyd llythyrau sgam at fusnesau yn cynnig ‘Puryddion aer Covid’
Erthygl nesaf CLICIO A CHASGLU – MANNAU PARCIO BELLACH AR GAEL AR Y STRYD FAWR A STRYD HOLT CLICIO A CHASGLU – MANNAU PARCIO BELLACH AR GAEL AR Y STRYD FAWR A STRYD HOLT

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Councillor Nigel Williams visits The Uncommon Practice
Busnes arbennig o dda ;)
Busnes ac addysg Rhagfyr 7, 2023
Hands
Ymgyrch John i’r rheini sy’n byw gyda Dementia
Y cyngor Fideo Pobl a lle Rhagfyr 6, 2023
The Guildhall, Wrexham
Cyngor Wrecsam yn ystyried mwy o gynigion i arbed costau wrth i’r wasgfa ariannol aruthrol barhau
Y cyngor Rhagfyr 6, 2023
Council Tax
Siapio dyfodol Treth y Cyngor yng Nghymru
Y cyngor Fideo Pobl a lle Rhagfyr 6, 2023

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Hands
Y cyngorFideoPobl a lle

Ymgyrch John i’r rheini sy’n byw gyda Dementia

Rhagfyr 6, 2023
Council Tax
Y cyngorFideoPobl a lle

Siapio dyfodol Treth y Cyngor yng Nghymru

Rhagfyr 6, 2023
20mph
Y cyngorPobl a lle

Gallwch gael eich cosbi am ddifrodi neu symud arwyddion 20mya

Rhagfyr 6, 2023
Victorian Market
Y cyngorArall

Marchnad Fictoraidd wedi’i lleihau oherwydd gwyntoedd cryf a ragwelir

Rhagfyr 6, 2023
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Fy Niweddariadau
  • Hysbysiadau awtomatig
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English