Mae Cyngor Wrecsam, Heddlu Gogledd Cymru, ac asiantau eraill ar draws y rhanbarth yn gofyn i chi ein helpu i ledaenu’r neges yn ystod Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb.
Yr wythnos hon mae hi’n Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb ac eleni yng Ngogledd Cymru mae asiantau allweddol yn dod ynghyd i hyrwyddo’r un neges allweddol – ni fydd troseddau casineb yn cael eu goddef yng Ngogledd Cymru!
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Trosedd casineb yw ble mae unigolyn yn cael ei dargedu oherwydd eu hunaniaeth neu wahaniaeth tybiedig. Gallai fod yn weithred o drais neu atgasedd neu wahaniaethu. Efallai fod dioddefwyr wedi eu bwlio, eu haflonyddu neu eu cam-drin. Gall hyn ddigwydd yn gyhoeddus neu yn y gweithle.
Dywedodd y Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Pobl, Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedau: ‘Mae troseddau casineb yn annerbyniol; mae’n dinistrio bywydau ac yn ynysu pobl ddiamddiffyn a chymunedau. Mae troseddwyr yn rhydd i barhau i gyflawni’n drosedd hon os na roddir gwybod amdani. Rydym am i hyn newid. Rydym eisiau annog a chefnogi pobl i siarad am droseddau casineb ac yn bwysicaf oll rhoi gwybod amdanynt!’
Felly sut gallwch gefnogi Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb? Ein helpu i ledaenu’r neges trwy:
- Os bydd rhywun yn dweud wrthych eu bod wedi bod yn ddioddefwr, gwrandewch ar eu stori a’u hannog i roi gwybod am y digwyddiad.
- Os ydych yn ei weld, rhowch wybod amdano… Nid oes rhaid i chi fod yn ddioddefwr i roi gwybod amdano
- Edrychwch am negeseuon Facebook a Twitter trwy gydol yr wythnos gan @wrexhamcbc a @NorthWalesPCC.
Dylid rhoi gwybod am Droseddau Casineb drwy ffonio Heddlu Gogledd Cymru ar 101 (999 mewn argyfwng) neu linell gymorth 24 awr rhad ac am ddim Cymorth i Ddioddefwyr ar 0300 30 1982. Mae mwy o wybodaeth hefyd ar gael ar-lein www.reporthate.victimsupport.org.uk.
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG