Dathlodd Tŷ Pawb ei ben-blwydd cyntaf mewn steil ar Ddydd Llun y Pasg heulog gyda diwrnod o adloniant a cerddoriaeth fyw.
Mynychodd bron i 2,000 o bobl i’r digwyddiad – Dydd Llun 2 – a oedd yn cynnwys corau lleol, bandiau, gweithgareddau teuluol a mwy.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .
Samba, canu a dathlu!
Roedd yr uchafbwyntiau’n cynnwys band Samba, Bloco Swn, yn crwydro o gwmpas yr Ardal Fwyd gyda’u drymio rhythmig, y côr Pop Vox yn arwain y gynulleidfa i ganu caneuon Tom Jones, ac Evrah Rose yn rhoi ei pherfformiad cyntaf fel bardd preswyl Tŷ Pawb.
Cafodd y gwaith celf newydd syfrdanol ar gyfer ‘Wal Pawb’ ei ddadorchuddio’n swyddogol gan yr artist Kevin Hunt.
Mae prosiect Wal Pawb gan Kevin, o’r enw ‘face-ade’, hefyd yn cynnwys diod newydd a wnaed gan ddefnyddio cynhwysion a dyfir ar ardd gymunedol Tŷ Pawb. Mae’n ddiogel dweud bod y ddiod wedi cael derbyniad go dda ar un o ddiwrnodau poethaf y flwyddyn hyd yn hyn!
Mae’r gerddoriaeth yn parhau
Dilynwyd yr adloniant yn ystod y dydd gan gyngerdd gyda rhai o’r bandiau a pherfformwyr gorau yn yr ardal, gan gynnwys babi Brave, Meilir, Omaloma, Double-Barelled a Break the Record.
Digwyddiad perffaith i orffen blwyddyn gyntaf wych
Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Bobl – Cymunedau, Partneriaethau Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol, y Cyng Hugh Jones: “Mae Dydd Llun 2 wedi cau blwyddyn gyntaf wych i Tŷ Pawb. Mae’n drawiadol iawn bod gymaint wedi troi i fynu ar benwythnos heulog pan oedd llawer o bobl yn ystyried mynd allan i’r awyr agored.
“Mae’r cyfuniad o gelfyddydau, marchnadoedd, bwyd, diod, gweithgareddau i’r teulu ac adloniant byw amrywiol wedi profi yn boblogaidd iawn gydag ymwelwyr a rhaid diolch i ymdrechion enfawr y staff, masnachwyr, gwirfoddolwyr, artistiaid a phawb sydd wedi gweithio mor galed i wneud Tŷ Pawb yn lwyddiannus.
“Rydym yn edrych ymlaen at yn ail flwyddyn Tŷ Pawb, gyda rhai digwyddiadau ac arddangosfeydd gwych wedi’u cynllunio yn barod, gan gynnwys yr arddangosfa ‘Futbolka’ Pêl-droed sy’n lansio ddydd Gwener.”
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB