Mae arddangosfa celf fwyaf clodfawr y byd yn agor yr wythnos hon – ac mae Tŷ Pawb yn chwarae rôl arweiniol wrth gynnwys celf o Gymru!
Mae La Biennale yn cael ei gynnal yn Venice bob dwy flynedd. Wedi’i sefydlu yn 1895, mae dros 500,000 o ymwelwyr yn dod i’r Biennale, ar draws ei brif safleoedd.
Mae Cymru yn Fenis wedi bod yn rhan o’r marciwr allweddol hwn yn y byd celf ers 2003. Mae’n gyfle i gyflwyno artistiaid mwyaf arwyddocaol ac amserol Cymru i gynulleidfa rhyngwladol.
Llynedd, cyhoeddom y newyddion cyffrous bod Tŷ Pawb wedi cael ei ddewis fel Sefydliad Arweiniol ar gyfer Cymru yn Fenis 2019.
ALLECH CHI WNEUD GWAHANIAETH I FYWYD PLENTYN SYDD MEWN GOFAL?
Mae Tŷ Pawb yn gweithio gydag artist blaenllaw Cymru
Mae Sean Edwards yn cynrychioli Cymru yn Fenis eleni. Mae ei gyflwyniad yn La Biennale yn cael ei arwain gan Tŷ Pawb, yn gweithio gyda’r curadur rhyngwladol, Marie-Anne McQuay.
Mae arddangosfa Sean, ‘Undo Things Done’ yn un o’r rhai mwyaf uchelgeisiol ac emosiynol hyd yma; ymholiad barddonol i le, gwleidyddiaeth a dosbarth wedi’i blethu gyda hanesion personol.
Mae cyflwyniad Sean hefyd yn cynnwys drama radio, ‘Refrain’ sydd wedi’i gynhyrchu ar y cyd gyda Theatr Cenedlaethol Cymru, yn cael ei berfformio’n ddyddiol gan mam Sean, ac yn cael ei ddarlledu’n fyw o’i chartref yng Nghaerdydd i arddangosfa Sean yn Biennale Fenis. Bydd Refrain hefyd yn cael ei gyflwyno fel prosiect radio ledled Cymru ym mis Tachwedd gan National Theatre Wales a Tŷ Pawb ym mis olaf y Biennale.
Rhywbeth newydd sbon i Wrecsam
Mae cyfranogiad Tŷ Pawb gyda Chymru yn Fenis yn rhywbeth newydd sbon i Wrecsam, ac yn cynnig cyfle i sefydlu ein hunain yn rhyngwladol fel canolfan ragoriaeth ar gyfer y Celfyddydau.
Fel Sefydliad Arweiniol, rydym yn falch iawn bod arddangosfa Sean yn dod yma i Wrecsam yn 2020 – y cyflwyniad cyntaf yng Nghymru a’r DU. Dyma gam anferthol arall wrth roi Tŷ Pawb a Wrecsam ar fap y celfyddydau rhyngwladol.
Dywedodd Jo Marsh, Cyfarwyddwr Creadigol Tŷ Pawb ac Arweinydd y Celfyddydau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Mae’n anrhydedd bod Tŷ Pawb yn cael ei ddewis fel Sefydliad Arweiniol ar gyfer Cymru yn Fenis 2019, dyma gyfle gwych i’r sefydliad, ac i Wrecsam.
“Drwy weithio gyda Sean Edward a Marie-Anne McQuay ar y prosiect anhygoel hwn, byddwn yn chwifio’r faner dros celfyddydau Cymru, a dod â chyhoeddusrwydd rhyngwladol i Wrecsam a Tŷ Pawb.
“Fel sefydliad arweiniol, bydd gan Tŷ Pawb gyfle i siapio darpariaeth yr arddangosfa a’r rhaglen gyhoeddus, gan gadw ein ethos o gynwysoldeb wrth galon popeth.”
Cydnabyddiaeth ryngwladol i Tŷ Pawb
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae codi proffil Tŷ Pawb mor ddiweddar ar ôl ei agor yn bwysig iawn, a chael gosod ein stondin mewn digwyddiad mor glodfawr â Biennale Fenis.
“Hoffwn longyfarch Sean Edward ar ran Wrecsam ar ei arddangosfa unigol gwefreiddiol ar gyfer Cymru yn Fenis eleni. Rydym yn edrych ymlaen at ddychwelyd ei waith i Gymru i’w ddangos yn Tŷ Pawb yn 2020.”
Mae’r Biennale yn agor yn swyddogol yr wythnos hon. Bydd cyflwyniad Cymru yn Fenis Sean Edwards yn cael ei arddangos o 11 Mai hyd at 24 Tachwedd; mae eisoes yn tynnu llawer o sylw yn y cyfryngau rhyngwladol. Bendant yn un i’w weld dros y misoedd nesaf!
Gallwch ddilyn Cymru yn Fenis ar y cyfryngau cymdeithasol, i gael y newyddion diweddaraf o weithgareddau dyddiol yr arddangosfa:
Comisiynwyd Cymru yn Fenis 2019 gan Cyngor y Celfyddydau Cymru.
DYSGWCH FWY AM FABWYSIADU