Rydym yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn Wythnos Pontio’r Cenedlaethau Byd-eang am y tro cyntaf! Mae Pontio’r Cenedlaethau ynghylch dod â phobl o bob oedran at ei gilydd i rannu straeon, dysgu pethau newydd a chael amser da.
Mae’r wythnos arbennig hon yn gyfle gwych i adlewyrchu ar yr holl fentrau rhyfeddol pontio’r cenedlaethau yn Wrecsam, megis sefydlu grŵp pontio’r cenedlaethau plant bach, ysgolion cynradd yn ymweld â chartrefi preswyl, a myfyrwyr yn dod yn Arwyr Digidol.
Mae’r wythnos hon yn llawn o weithgareddau dyddiol sydd yn helpu pobl o wahanol genedlaethau i gysylltu gyda’i gilydd. P’un a ydych chi’n ifanc neu’n hŷn, neu rhwng y ddau yn y canol, mae rhywbeth i bawb ei fwynhau a dysgu gan eraill.
Ewch i weld beth sy’n digwydd pob dydd ar ein tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol:
Cofiwch, mae pob mymryn yn help i ddod â’n cymuned yn agosach, gan wneud yr wythnos hon yn llwyddiant. Gadewch i ni fwynhau dysgu gan ein gilydd.
Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae gwaith pontio’r cenedlaethau yn bwysig iawn. Mae gweld pobl o bob oedran yn dod at ei gilydd i rannu profiadau, gwybodaeth a mwynhau yn beth gwych i’w gweld. Byddwn yn annog pobl o bob oedran a chefndir i gymryd rhan a meddwl am ffyrdd y gallent ryngweithio gyda gwahanol genedlaethau ac oedrannau.”
Dywedodd y Cynghorydd Rob Walsh, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Plant: “Mae cysylltu pobl hŷn ac ifanc yn gwella rhyngweithio cymdeithasol ond hefyd o fudd i iechyd a lles cyffredinol. Mae rhyngweithio rhwng y cenedlaethau yn eithaf cyffredin ar draws y fwrdeistref sirol gyda digon o enghreifftiau i’w gweld. Gobeithio y bydd hyn yn parhau.”
Os hoffech ragor o wybodaeth neu os hoffech chi drafod unrhyw syniadau ynghylch pontio’r cenedlaethau, cysylltwch â Vicki Lindley-Jones drwy e-bost commissioning@wrexham.gov.uk
Cyhoeddi Eisteddfod Wrecsam 2025-ddydd Sadwrn 27 Ebrill 2024 – Newyddion Cyngor Wrecsam
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.