Wythnos Ymwybyddiaeth Compost Rhyngwladol (ICAW) yw menter addysgol fwyaf y diwydiant compost, ac eleni, mae’n cael ei chynnal o ddydd Sul, 5 Mai, nes dydd Sadwrn, 11 Mai.
Drwy gydol yr wythnos, cynhelir digwyddiadau ar draws y byd, gyda gwahanol weithgareddau’n digwydd sy’n annog ac yn dathlu pob math o gompostio, o’r iard gefn i raddfa fawr.
Fel rhan o’r Wythnos hon, bydd ein timau strategaeth gwastraff a mannau agored ym Mharc Acton ar ar ddydd Iau Mai 9fed (11am-2pm), lle fydd ganddynt stondin ger y gastanwydden bêr, sef enillydd coeden y flwyddyn y DU 2023.
Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Rydym yn falch o ychwanegu ein cefnogaeth i Wythnos Ymwybyddiaeth Compost Rhyngwladol, a bydd ein swyddogion gerllaw i sgwrsio am gompostio, rhannu hadau a rhoi gwybodaeth ar ailgylchu. Bydd bagiau y gellir eu compostio i’r bin bwyd ar gael hefyd, felly galwch heibio os ydych chi’n gallu.”
Creu deunydd gwella pridd – a’i gasglu yn rhad ac am ddim!
Oeddech chi’n gwybod y defnyddir eich gwastraff bwyd a gardd yn Wrecsam i greu deunydd gwella pridd, sydd ar gael i’n preswylwyr i’w gasglu o’r tair canolfan ailgylchu trwy gydol y flwyddyn?
Felly os nad ydych eisoes yn ailgylchu eich gwastraff bwyd, pam na wnewch chi ddechrau ailgylchu eich sbarion a’i droi yn rhywbeth defnyddiol? Ac yna, pan fyddwch angen gwneud rhywfaint o arddio, gallwch ddod i gasglu rhywfaint o ddeunydd gwella pridd yn rhad ac am ddim. Mae’n swnio fel syniad da, tydi?
Nid yw’n rhy hwyr i ymuno â’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd
Eleni, ymestynnwyd y gwasanaeth casglu gwastraff gardd nes mis Chwefror 2025, ac os nad ydych wedi ymuno eto, nid yw’n rhy hwyr i danysgrifio.
Mae’r gwasanaeth yn costio £35 fesul bin gwyrdd y flwyddyn ac yn rhedeg o’r dyddiad y byddwch yn cofrestru tan 28 Chwefror, 2025, felly mae’n well cofrestru cyn gynted â phosib i gael y gwerth gorau.
Os byddwch yn cofrestru rŵan, byddwch yn cael 10 mis o gasgliadau, a phe baech yn ei adael am fis arall cyn cofrestru, byddwch yn talu’r un pris i gael 9 mis o gasgliadau. Felly cofrestrwch rŵan i gael mwy o gasgliadau am eich arian.
Am ragor o wybodaeth ar ailgylchu yn Wrecsam, edrychwch ar ein ‘tudalen ‘biniau ac ailgylchu’.
Sicrhewch eich bod yn gwaredu eich fêps yn gyfrifol – Newyddion Cyngor Wrecsam