Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen CANNOEDD YN GORYMDEITHIO YNG NGŴYL CYHOEDDI EISTEDDFOD WRECSAM
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > CANNOEDD YN GORYMDEITHIO YNG NGŴYL CYHOEDDI EISTEDDFOD WRECSAM
ArallPobl a lle

CANNOEDD YN GORYMDEITHIO YNG NGŴYL CYHOEDDI EISTEDDFOD WRECSAM

Diweddarwyd diwethaf: Mai 3, 2024 9:35 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Sadwrn Ebrill 27 2024 Cyhoeddi Eisteddfod Wrecsam 2025

List of Images 1/36
RHANNU

Bu dros 500 o drigolion lleol ac aelodau Gorsedd Cymru’n gorymdeithio drwy strydoedd dinas Wrecsam fore Sadwrn 27 Ebrill i groesawu dyfodiad yr Eisteddfod Genedlaethol i’r ardal ymhen y flwyddyn.

Bwriad yr orymdaith yw croesawu’r ardal i’r Eisteddfod a’r Eisteddfod i’r ardal, ac ar ei diwedd, cynhelir seremoni liwgar yng Nghylch yr Orsedd.  Yn ystod y seremoni hon, cyflwynir y copi cyntaf o’r Rhestr Testunau i’r Archdderwydd, ac eleni, cyfle Llinos Roberts, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam oedd gwneud hyn, ac meddai, “Roedd hi’n fraint cyflwyno’r Rhestr Testunau i’r Archdderwydd, gan mai dyma ffrwyth llafur trigolion Wrecsam a’r fro dros y misoedd diwethaf.

“Rydyn ni wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod syniadau, cerddi a chaneuon, ac mae’r braf iawn cael rhannu popeth gyda Chymru gyfan.

“Braint hefyd oedd gorymdeithio drwy’r ddinas gyda chynifer o grwpiau cymunedol a chynrychiolaeth ddinesig, gyda phawb wedi dod ynghyd i groesawu’r Eisteddfod i’r ardal.  Roedd ‘na awyrgylch hyfryd ar y daith, ac rydyn ni am i’r teimlad o ddathlu a chroeso barhau drwy gydol y prosiect ac yn ystod wythnos yr ŵyl ei hun.”

Yn ogystal â chyflwyno’r copi cyntaf o’r Rhestr Testunau, roedd y seremoni hefyd yn gyfle i groesawu ac anrhydeddu Archdderwydd newydd, wrth i Myrddin ap Dafydd ymddeol.  Y Prifardd a’r Priflenor Mererid Hopwood sy’n cymryd ei le, a chafodd hi groeso brwd gan y gynulleidfa ar Lwyn Isaf yng nghanol Wrecsam.  Bydd Mererid yn arwain yr Orsedd tan 2027, ac yn arwain y seremonïau Gorseddol yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf a gynhelir ym mis Awst eleni.

Roedd gan yr Archdderwydd neges gref yn ei hannerch gyntaf o’r Maen Llog, wrth drafod yr angen am heddwch, wrth iddi egluro pwrpas cleddyf yr Orsedd, gan ddweud, “Cleddyf na bydd fyth yn cael ei dynnu o’r wain. Cleddyf Heddwch felly. Arwydd o’n dyhead ni i weld diwedd ar ryfel a thrais.

“Ac mae’r dyhead hwnnw’n fawr heddiw. Boed ‘i’r iawn bwyll arwain y byd’ ddwedodd Iolo. Ac o’n gorsedd heddwch ni yn Wrecsam, rydym ni, bobl gyffredin Cymru, yn galw ar bobl gyffredin y byd i wrthod syniadau’r arweinwyr sy’n gofyn am fwy o gleddyfau a bomiau a thaflegrau, ac yn dweud ‘digon yw digon’.”

Soniodd hefyd am y cyfnod anodd sy’n wynebu sefydliadau yng Nghymru ar hyn o bryd, ac meddai, “Gyfeillion, yn nannedd bygythiadau i gymaint o’n sefydliadau iaith Gymraeg ni, mae angen ffydd.  Ffydd – batris y galon – a’r galon, yn ei thro yn gronfa gobaith.

“A’m gobaith i yw y byddwn ni’n gweld cydweithio llawen rhyngom. Dyna sydd ei angen yn wyneb argyfwng – nid ymgecru ymhlith ein gilydd. Dyma’r amser i roi gobaith ar waith; yr egni radical hwnnw sy’n fwy na chroesi bysedd; yr egni sy’n ein gwthio i ddychmygu’r lle gwell a’r ffordd i’w gyrchu.”

Ceir copi llawn o araith yr Archdderwydd yma.

Gyda’r Rhestr Testunau wedi’i gyflwyno i’r Archdderwydd, mae copïau ar gael i’w prynu mewn siopau ar hyd a lled Cymru erbyn hyn a bydd Porth Cystadlu Eisteddfod 2025 yn agor ym mis Ionawr.

Cyn hynny, mae dyddiad cau cystadlaethau llwyfan Eisteddfod 2024 yn prysur agosáu, ac mae’n rhaid cwblhau’r broses gof4restru ar-lein erbyn 23:59 nos Fercher 1 Mai.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam o 2-9 Awst y flwyddyn nesaf, gyda’r Eisteddfod eleni’n cael ei chynnal ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd o 3-10 Awst.  Am fwy o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru.

Rhannu
Erthygl flaenorol Compost Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Compost Rhyngwladol yn dechrau ar 5 Mai!
Erthygl nesaf Parthau 20 mya yn Wrecsam Parthau 20 mya yn Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Street lighting
Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd
Arall
Medi 21, 2026
Horse Riders
Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion
Arall Pobl a lle
Medi 21, 2026
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 21, 2026
Gwersyllt
Dan sylw: Rôl cynghorydd
Y cyngor
Medi 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Tennis o'r radd flaenaf yn dychwelyd i Wrecsam ym mis Hydref
DigwyddiadauPobl a lle

Tennis o’r radd flaenaf yn dychwelyd i Wrecsam ym mis Hydref

Medi 18, 2026
Tapio i mewn, tapio allan – Teithio’n haws ar y trên yn Wrecsam a'r cyffiniau
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Tapio i mewn, tapio allan – Teithio’n haws ar y trên yn Wrecsam a’r cyffiniau

Medi 17, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella'r adeilad.
Pobl a lle

Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella’r adeilad.

Medi 16, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English