Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae ysgolion yn gweithio mor galed i gadw’ch plant yn ddiogel… cofiwch eu cefnogi nhw
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Lucy Cowley
Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni
Digwyddiadau Pobl a lle
Jayne Bryant
Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m
Busnes ac addysg Pobl a lle
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor
Eisteddfod Wrecsam 2025
Eisteddfod Wrecsam 2025!
Digwyddiadau Fideo
Wrexham's Year of Wonder
Lansio “Blwyddyn o Ryfeddod” Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Mae ysgolion yn gweithio mor galed i gadw’ch plant yn ddiogel… cofiwch eu cefnogi nhw
Busnes ac addysgY cyngor

Mae ysgolion yn gweithio mor galed i gadw’ch plant yn ddiogel… cofiwch eu cefnogi nhw

Diweddarwyd diwethaf: 2020/10/12 at 11:11 AM
Rhannu
Darllen 5 funud
Schools
RHANNU

Rydyn ni’n deall y bydd llawer o rieni’n poeni am y nifer o ysgolion sydd wedi’u heffeithio’n ddiweddar gan absenoldebau oherwydd y coronafeirws.

Cynnwys
Cyfrifoldeb ar bawbBod yn ofalus

Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.

Er hynny, mae’n bwysig iawn pwysleisio nad ydi’r ffigyrau sydd ar y cyfryngau yn aml heddiw’n cynrychioli’r nifer o achosion positif… dweud maen nhw faint o ddisgyblion a staff sy’n absennol gan eu bod yn gorfod hunanynysu.

Mae arweinwyr a staff ysgolion Wrecsam yn gweithio’n hynod o galed i gadw ysgolion yn ddiogel ac ar agor, a byddant yn parhau i wneud hynny tra bydd angen. Ond mae cydweithrediad a dealltwriaeth rhieni’n allweddol ar yr adeg yma… felly cofiwch eu cefnogi.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Mae Prif Swyddog Addysg ac Ymyrraeth Cyngor Wrecsam, Karen Evans, yn dweud:

“Mae ysgolion yn gweithio’n anhygoel o galed, ac rydw i eisiau diolch i’r rhieni am eu cydweithrediad. Mae eich cefnogaeth chi’n hanfodol i sicrhau bod ein penaethiaid yn gallu gwneud eu gwaith.

“Rydyn ni’n deall y gall achosi problemau i rieni pan mae’n rhaid i’w plant hunanynysu a phan mae’n rhaid i swigod ysgolion gau, ond mae hyn yn hanfodol i helpu i atal y feirws rhag lledaenu mewn ysgolion ac yn y gymuned.

“Gofalwch eich bod chi’n dilyn y canllawiau yn ysgol eich plentyn trwy gadw pellter cymdeithasol wrth deithio i ac o’r ysgol, a phan fyddwch ar y buarth neu y tu allan i giatiau’r ysgol.

“Os oes gofyn i’ch plentyn hunanynysu, dilynwch y canllawiau gan y gwasanaeth Monitro, Olrhain a Diogelu a chadwch eich plentyn y tu mewn. Trwy weithio gyda’n gilydd, fe allwn ni gadw’n cymunedau’n ddiogel a chefnogi ysgolion i aros ar agor.”

Cyfrifoldeb ar bawb

Mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom ni i’n teuluoedd a’n cymunedau i fod yn ofalus iawn y tu allan i’r ysgol neu’r gwaith.

Er enghraifft, peidiwch â mynd i weld ffrindiau na theulu yn eu cartrefi. Cadwch at y rheolau cadw pellter cymdeithasol. Byddwch yn ofalus iawn â hylendid dwylo, a gwisgwch fwgwd mewn mannau cyhoeddus dan do.

Mae’r feirws ar gynnydd yng Ngogledd Cymru, ac mae cyfyngiadau lleol wedi’u cyflwyno yn Wrecsam – ynghyd â Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Chonwy – felly mae’n bwysicach nag erioed ein bod i gyd yn cadw at y rheolau.

Bod yn ofalus

Fel yn unrhyw weithle, os bydd rhywun yn cael prawf positif yn ein hysgolion, bydd gofyn i rai disgyblion a staff (sy’n cael eu galw’n ‘gysylltiadau’) hunanynysu am bythefnos.  Bydd maint y grŵp sy’n hunanynysu’n dibynnu ar gynlluniau’r ysgol unigol, cynllun yr adeilad ac i ba raddau mae disgyblion wedi gallu cadw ar wahân yn ystod y diwrnod yn yr ysgol, a faint o staff sydd ar gael.

Pan mae disgybl yn cael prawf positif, mae Cyngor Wrecsam yn gweithio’n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i adolygu faint o bobl y gallai’r disgybl fod wedi dod i gysylltiad â nhw, ac yna mae’n penderfynu pwy sydd angen hunanynysu.

Weithiau, bydd gwybodaeth am brofion positif yn cael ei derbyn yn hwyr y nos neu dros y penwythnos. Felly, yn yr achos cyntaf, mae’n aml yn syniad da bod yn ofalus a gofyn i’r ‘swigen’ gyfan hunanynysu. Mae hynny’n rhoi amser i ni adolygu’r sefyllfa a symudiadau’r disgybl yn fwy manwl, a gweld a oes posib’ lleihau nifer y disgyblion sy’n gorfod hunanynysu.

Mae Mrs Evans hefyd yn dweud, “Mae ysgolion wedi cwblhau asesiadau risg llawn ac maent yn cymryd gofal i ddiogelu staff a disgyblion. Mae ganddyn nhw hefyd gynlluniau’n barod i newid disgyblion sy’n methu â dod i’r ysgol i fod ar blatfformau dysgu digidol, er mwyn iddyn nhw allu parhau i ddysgu.

“Mae’r rhan fwyaf helaeth o’n hysgolion ni’n dal ar agor ac mae’r Cyngor yn gweithio’n agos gyda’r ysgolion sy’n cael eu heffeithio gan absenoldebau, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrofi, Olrhain a Diogelu GIG Cymru i sicrhau bod mesurau priodol wedi’u rhoi ar waith.”

Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.

Lawrlwythwch yr ap GIG

Rhannu
Erthygl flaenorol Offa's Dyke Mynediad cyfyngedig at Lwybr Clawdd Offa mewn ardaloedd sy’n destun cyfyngiadau symud lleol
Erthygl nesaf Mae Troseddau Casineb yn Annerbyniol – Rhowch Wybod Amdanynt Mae Troseddau Casineb yn Annerbyniol – Rhowch Wybod Amdanynt

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Lucy Cowley
Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 6, 2025
Jayne Bryant
Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m
Busnes ac addysg Pobl a lle Awst 5, 2025
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor Awst 5, 2025
Eisteddfod Wrecsam 2025
Eisteddfod Wrecsam 2025!
Digwyddiadau Fideo Awst 5, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Jayne Bryant
Busnes ac addysgPobl a lle

Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m

Awst 5, 2025
ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 5, 2025
Adult holding a child's hand
DigwyddiadauY cyngor

Galwad o’r newydd am fabwysiadwyr Cymraeg eu hiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Awst 1, 2025
Jan Picken, Senior MIS Support and Training Officer for Wrexham Council
Busnes ac addysg

Ysgolion Wrecsam yn elwa o gyfres meddalwedd SGR newydd a gynhelir yn y cwmwl

Gorffennaf 29, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English