Cynhelir Diwrnod Hawliau Gofalwyr 2023 ddydd Iau 21 Tachwedd ac mae’n gyfle i godi ymwybyddiaeth o hawliau a hawliadau gofalwyr, er mwyn helpu gofalwyr i gael y gefnogaeth sydd ei angen arnynt.
P’un ai bod rhywun newydd ddod yn ofalwr, wedi sylweddoli eu bod wedi bod yn gofalu am rywun heb gefnogaeth, neu wedi bod yn gofalu am rywun ers nifer o flynyddoedd, mae’n bwysig eu bod yn deall eu hawliau a’u bod yn gallu cael gafael ar y gefnogaeth sydd ar gael iddynt pan maent ei hangen.
Byddwn yn cynnal tri o sesiynau gwybodaeth galw heibio yn ystod wythnos Diwrnod Hawliau Gofalwyr: Llyfrgell Wrecsam – Dydd Sadwrn 23 Tachwedd rhwng 11am a 2pm.
Ymysg y sefydliadau a fydd yn bresennol bydd Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru, Gofalwyr Ifanc WCD, y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, y Tîm Taliadau Uniongyrchol, Therapyddion Galwedigaethol, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam, Gwasanaethau Eiriolaeth Gogledd Ddwyrain Cymru ac Advance Brighter Futures.
Meddai’r Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae’r digwyddiad yn Llyfrgell Wrecsam yn gyfle i bawb sy’n ofalwyr di-dâl i alw draw a chael gwybodaeth a chyngor am y gwasanaethau a’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt. Byddwn yn annog pob gofalwr di-dâl i alw heibio.”
Mae Diwrnod Hawliau Gofalwyr yn rhoi grym i ofalwyr gyda gwybodaeth a chefnogaeth. Mae’n eu helpu i deimlo’n hyderus wrth ofyn am yr hyn maent ei angen a herio’r drefn os na fodlonir eu hawliau, boed hynny yn y gweithle neu ym myd addysg, wrth geisio cael gofal iechyd neu ofal cymdeithasol, wrth ymwneud â gweithwyr proffesiynol eraill neu gartref.
Yn Wrecsam, gall gofalwyr di-dâl gael cefnogaeth, gwybodaeth a chyngor gan Wasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru, a gall gofalwyr ifanc gael cymorth drwy Ofalwyr Ifanc WCD.
Fforwm Ar-lein
Byddwn yn cynnal fforwm ar-lein i ofalwyr di-dâl ddydd Iau 21 Tachwedd rhwng 10am ac 11am. Bydd y fforwm yn gyfle i drafod y problemau y mae gofalwyr di-dâl yn eu hwynebu, clodfori’r gwaith da sy’n cael ei wneud a thrafod ffyrdd o wella’r gefnogaeth sydd ar gael.
Os hoffech gymryd rhan yn y fforwm, e-bostiwch commissioning@wrexham.gov.uk i gael dolen i ymuno â’r cyfarfod.
Ein llwybr i ddod yn ofalwyr maeth – Newyddion Cyngor Wrecsam