Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Wrecsam yn datgelu model Dyfrbont Pontcysyllte LEGO ac yn ymgyrchu i gael 10,000 o bleidleisiau
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Wrecsam yn datgelu model Dyfrbont Pontcysyllte LEGO ac yn ymgyrchu i gael 10,000 o bleidleisiau
Busnes ac addysgPobl a lle

Wrecsam yn datgelu model Dyfrbont Pontcysyllte LEGO ac yn ymgyrchu i gael 10,000 o bleidleisiau

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 12, 2024 10:42 am
Rhannu
Darllen 7 funud
Wrecsam yn datgelu model Dyfrbont Pontcysyllte LEGO ac yn ymgyrchu i gael 10,000 o bleidleisiau
RHANNU

Erthygl gwadd – Glandŵr Cymru, The Canal and River Trust in Wales

Mae model LEGO chwe throedfedd o Ddyfrbont eiconig Pontcysyllte wedi’i greu ac mae’n nodi cychwyn ymgyrch i’r dyluniad gael ei gynnwys yng nghasgliad byd-eang LEGO.

Mae model Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yn cael ei arddangos yn Tŷ Pawb yn Wrecsam ac mae’n ysbrydoli ymgyrch sydd angen 10,000 o bleidleisiau ar-lein er mwyn iddo gael ei gynnwys yng nghasgliad byd-enwog LEGO. Hwn fyddai’r tirnod cyntaf o Gymru, a phedwar lleoliad arall yn unig yn y DU sydd wedi’u cynnwys yn y casgliad, sef Big Ben, Tower Bridge, Stadiwm Old Trafford a Sgwâr Trafalgar.

Fe’i comisiynwyd fel rhan o brosiect celf creu lleoedd cymunedol Safle Treftadaeth y Byd, Y Bont sy’n Cysylltu. Caiff y prosiect, sy’n flwyddyn o hyd, ei redeg gan Glandŵr Cymru, sef y Canal and River Trust yng Nghymru, a chaiff ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Mae trigolion lleol ac ymwelwyr yn cael eu hannog i ymweld â gwefan LEGO er mwyn helpu’r prosiect i gyrraedd 10,000 o bleidleisiau, y trothwy sydd angen ei gyrraedd cyn i LEGO ystyried ychwanegu’r model at eu casgliad eiconig. Byddai hyn yn gwneud Dyfrbont hynod Pontcysyllte a threftadaeth ddiwydiannol Wrecsam yn fwy adnabyddus byth.  Rhwng 1962 a 2000, cynhyrchwyd LEGO yn Wrecsam a daeth yn ganolfan ddosbarthu a chanolfan ar gyfer gwneuthurwyr modelau LEGO UK.

Dywedodd Mark Evans, cyfarwyddwr rhanbarthol Cymru yng Nglandŵr Cymru: “Mae Dyfrbont Pontcysyllte, heb os, yn un o eiconau’r dyfrffyrdd, ac mae’r posibilrwydd y gallai gael ei hychwanegu at gasgliad byd-eang LEGO, o ystyried y cysylltiadau hanesyddol gyda’r rhan hon o Gymru a phoblogrwydd LEGO ledled y byd, yn wych.

“Mae’r ddyfrbont yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn, ac maent yn dod i weld y tirnod hudolus hwn sy’n cludo Camlas Llangollen ar draws yr Afon Dyfrdwy. Rydyn ni eisiau i bobl gefnogi’r ymgyrch er mwyn gweld y ddyfrbont yn cael ei chynnwys yn y casgliad LEGO.”

Dywedodd Ian Bancroft, Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, a Chadeirydd Bwrdd Safle Treftadaeth y Byd UNESCO: “Mae gan Wrecsam hen hanes o fod yn gartref i arloesi, diwydiant trwm a gweithgynhyrchu; roedd ffatri LEGO yn gyflogwr poblogaidd a oedd yn darparu swyddi yn yr ardal am ddegawdau. Ar adeg hollbwysig yn hanes Wrecsam, wrth i ni ymdrechu i agor penodau newydd o ran diwylliant a chymdeithas, rwy’n falch iawn o weld y prosiect celf hwn yn talu teyrnged mewn cymaint o ffyrdd i’n gorffennol anhygoel drwy gymunedau Wrecsam Wledig, sef asgwrn cefn a sbardun ein treftadaeth ddiwydiannol hynod enwog.”

Dywedodd Rachel Clacher CBE, Cyd-sylfaenydd Moneypenny a Chadeirydd Bwrdd Dinas Wrecsam: “Am ymgyrch wych i’w chefnogi – dathliad o ddyfeisgarwch y gorffennol wedi’i miniatureiddio mewn cyfrwng eiconig modern sydd ynddo’i hun yn rhan bwysig o stori Wrecsam.  Mae hwn yn gyfnod hollbwysig i Wrecsam: mae llygaid y byd arnom ni, a bydd dyfodol ein dinas falch yn cael ei siapio gan yr hyn a wnawn yn awr er budd ein pobl ifanc. Mae’r ymgyrch hon a’r prosiect hwn yn ychwanegu at y llu o bethau cyffrous o’r radd flaenaf sy’n digwydd yma ar hyn o bryd – mae gan Wrecsam ddyfodol disglair.”

Fel rhan o’r ymgyrch bydd tri model bychan pwrpasol yn cael eu harddangos fel rhan o ddigwyddiad Safle Treftadaeth y Byd ar 23 a 24 Tachwedd i ddathlu treftadaeth, diwylliant, arloesedd ac etifeddiaeth cymunedau Trefor, Froncysyllte, Cefn Mawr a’r Waun.  Gallwch ymweld â’r modelau hyn a phleidleisio wyneb yn wyneb yn siop nwyddau Clwb Pêl-droed Wrecsam, Canolfan Ymwelwyr Basn Trefor Glandŵr Cymru, neu ar y dyfrffyrdd wrth fynd ar daith ar draws y ddyfrbont ar fwrdd cwch Seren Fach Anglo Welsh.

Dywedodd Prif Weithredwr Clwb Pêl-droed Wrecsam, Michael Williamson: “Rydym yn falch gefnogi’r ymgyrch i gynnwys y dyluniad o Ddyfrbont eiconig Pontcysyllte yng nghasgliad byd-eang LEGO.

“Gan bod ymwelwyr yn dod i’n dinas o bob rhan o’r byd, mae’n bwysig dathlu ac amlygu hanes a threftadaeth ein rhanbarth ymysg ein cynulleidfa eang ac mae hwn yn brosiect gwych sy’n gwneud hynny.

“Mae’r Ddyfrbont a hanes eiconig LEGO ei hun yn Wrecsam yn gwneud hon yn bartneriaeth heb ei hail, ac rydym yn annog pawb i ymweld â ni yn Siop y Clwb yn y STōK Cae Ras i weld y model a bwrw eich pleidlais.”

Dywedodd Claire Farrell, cyfarwyddwr prosiect Y Bont sy’n Cysylltu: “Rydym wedi cyffroi wrth lansio’r modelau LEGO hyn o Ddyfrbont Pontcysyllte fel rhan o ddigwyddiad arbennig a gynhelir ar 23ain a 24ain Tachwedd i ddathlu treftadaeth a diwylliant cymunedau Trefor, Froncysyllte, Cefn Mawr a’r Waun. Llond llaw yn unig yw’r cymunedau hyn o’r trefi a’r pentrefi ôl-ddiwydiannol niferus sydd ar lan y dyfrffyrdd sy’n gwneud Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, y Tirwedd Cenedlaethol a’r ardal gyfagos mor unigryw. Mae olion treftadaeth bensaernïol a diwydiannol y gelir eu gweld o hyd yn y dirwedd yn denu cannoedd o filoedd o bobl bob blwyddyn ac mae’r dreftadaeth yn parhau i gael ei siapio gan ei gymunedau – rhai ohonynt yn adnabyddus, eraill nad ydynt wedi’u darganfod eto.”

Mae’r model a’r Ddyrfbont miniatur wedi’i chreu gan grëwr o Gymru sy’n disgrifio ei hun fel ‘Lego Banksy’ byd y ‘crewyr’ LEGO ac mae wedi creu sawl cofeb o Gymru. Pan fydd yr arddangosfa o’r model wedi dod i ben yn Tŷ Pawb, bydd yn dod yn rhan o adnoddau dysgu Glandŵr Cymru yn y Gofod Adnoddau Addysg newydd ger y Ddyfrbont.

Rhannu
Erthygl flaenorol Rhannwch eich lluniau o Wrecsam hanesyddol! Rhannwch eich lluniau o Wrecsam hanesyddol!
Erthygl nesaf Carers Rights Day logo in Welsh Mae’n Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr 2024 cyn bo hir – ydych chi’n ofalwr di-dâl? Mynnwch y cymorth, y gefnogaeth a’r wybodaeth sydd ei angen arnoch

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

All Saints School Library Opening
Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd
Busnes ac addysg Pobl a lle
Medi 23, 2026
Gŵyl gerddorol a diwylliannol Gymraeg newydd yn dod i Wrecsam
Gŵyl gerddorol a diwylliannol Gymraeg newydd yn dod i Wrecsam
Digwyddiadau
Medi 23, 2026
sign for site
Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol
Y cyngor
Medi 22, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle
Medi 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Gresford memorial wheel
Pobl a lle

Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach

Medi 22, 2026
Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws

Medi 21, 2026
Gallai'r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Gallai’r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 18, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English