Mae mis Hydref yn Fis Rhyngwladol Cerdded i’r Ysgol – mis lle mae disgyblion o bob cwr o’r byd yn cael eu gwahodd i ddathlu manteision cerdded neu olwyno i’r ysgol.
Mae sawl mantais i ddefnyddio dulliau teithio llesol fel modd o deithio, ac mae’n ffordd dda i ddatblygu arferion iach a chyflwyno ymarfer corff i’n bywydau. Felly’r cwestiwn mawr ydi… ydych chi’n cymryd rhan?
Os ydych chi’n chwilio am ffyrdd i’ch ysgol gymryd rhan neu am weithgareddau llawn hwyl i’w gwneud gyda’ch plant ar y ffordd i’r ysgol, mae gan Living Streets fentrau gwych i chi gymryd rhan ynddyn nhw yn ogystal ag adnoddau am ddim i’ch helpu chi ddechrau symud…
Pam bod cerdded i’r ysgol yn beth da?
Mae Living Streets yn dweud bod cerdded i’r ysgol yn golygu:
- Plant hapusach! Mae plant sy’n gwneud ymarfer corff, yn enwedig cerdded cyn mynd i’r ysgol, yn gwneud yn well yn y dosbarth oherwydd eu bod yn cyrraedd yn effro, yn ffit ac yn barod i ddysgu
- Llai o draffig! Yn ystod prysurdeb y lôn fawr yn y bore, mae un o bob pum car ar y ffordd yn mynd â phlant i’r ysgol, gan gyfrannu at dagfeydd, llygredd aer ac allyriadau carbon
- Aer glanach! Mae mynd â’r plant i’r ysgol yn unig yn gyfrifol am gynhyrchu hanner miliwn tunnell o CO2 y flwyddyn (mwy na rhai gwledydd bach!) Dychmygwch yr hyn a allem ei gyflawni petaem yn dechrau cerdded mwy yn lle mynd yn y car?
Eisiau cymryd rhan? I ddarganfod mwy cymrwch olwg ar dudalen cerdded i’r ysgol Living Streets.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.