Mae digwyddiad cerddorol mwyaf Wrecsam yn ôl ac mae FOCUS Wales yn cychwyn yfory!
Ymlaen tan ddydd Sadwrn, mae FOCUS Wales yn darparu gŵyl ryngwladol o dalent newydd o Gymru a gweddill y byd. Yn ei 9fed blwyddyn bellach bydd yn croesawu dros 10,000 o bobl i’r dref i weld mwy na 200 o fandiau mewn lleoliadau ar draws canol y dref a chynnal rhaglen lawn o Sesiynau Diwydiant Rhyngweithiol, Comedi, digwyddiadau Celf, a Ffilmiau, drwy gydol yr ŵyl.
Mae perfformwyr a gyhoedddwyd ar gyfer eleni yn cynnwys Neck Deep, Boy Azooga, Kero Kero Bonito, 9Bach, Cate Le Bon, The Lovely Eggs, BC Camplight, Skindred, the Beths, Avi Buffalo, Islet, Snapped Ankles, Femme, Elan Catrin Parry, Lizzy Farrall….. gormod i’w rhestru yma! Gallwch weld y rhestr llawn o berfformwyr yma.
ALLECH CHI WNEUD GWAHANIAETH I FYWYD PLENTYN SYDD MEWN GOFAL?
Bydd dros 20 o lwyfannau yn arddangos talent anhygoel a gallwch ddarganfod pwy sy’n chwarae’n lle, a dod o hyd i docynnau yma.
Peidiwch â chymryd ein gair ni yn unig… dyma beth sydd gan bobl eraill i’w ddweud:
- ‘Un o ddigwyddiadau arddangos gorau’r byd’ Drowned in Sound
- ‘Un o wyliau gorau’r DU – arddangos neu fel arall’ Gigwise
- ‘Mae FOCUS Wales yn ddigwyddiad gwirioneddol arbennig’ BBC Radio Wales
- ‘Digwyddiad arddangos diwydiant cerddoriaeth Gymreig arloesol’ Metro
- ‘Mae FOCUS Wales yn ŵyl arddangos sydd ymhlith y goreuon’ God Is In The TV
- ‘Digwyddiad cerddoriaeth sy’n tyfu’n gyflym, gydag amrywiaeth cyffrous o fandiau’ Louder Than War
Unwaith eto bydd pabell ar Sgwâr y Frenhines yn dangos y talent gorau yn yr iaith Gymraeg 🙂
Gallwch ddarllen mwy yma.
Ond dim ond y gerddoriaeth yn unig sy’n bwysig, amcangyfrifir bod yr ŵyl yn dod â hwb economaidd gwerth bron £500,000 i’r economi. 🙂
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio: “Does dim dwywaith bod gwaith caled trefnwyr FOCUS Wales yn dod â manteision anferth i Wrecsam ac yn ei osod yn gadarn ar y llwyfan rhyngwladol o ddigwyddiadau cerddorol. Unwaith eto rwy’n dymuno’r gorau iddynt yn y digwyddiad hwn sy’n argoeli i fod yn llwyddiannus”.
Gallwch weld y cyfan sydd gan FOCUS Wales i’w gynnig drwy ymweld â’u gwefan.
Cadwch mewn cysylltiad â FOCUS Wales 2019 drwy ddefnyddio #focuswales2019
DYSGWCH FWY AM FABWYSIADU