demn

Dyfeisiwyd y Daith Ddementia Rithiol ugain mlynedd yn ôl i roi cyfle i bobl ag ymennydd iach brofi sut beth ydi dementia. Mae’n rhoi cyfle i bobl gerdded i mewn i fyd pobl sy’n byw gyda dementia – ac yna newid yr amgylchedd a’u harferion er mwyn ceisio gwella gofal a chaniatáu i bobl â dementia aros gartref yn hwy.

Wrth gerdded yn ôl traed unigolyn gyda dementia, gallwn ddechrau deall y problemau maent yn eu hwynebu bob dydd. Byddwch yn profi teimladau o fod yn ddryslyd, ar goll, yn ofnus, bregus a llawer mwy, ac felly yn deall beth sydd arnoch chi angen ei newid i wella safonau gofal.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Bydd y bws yn dod i’r mannau canlynol:

  • Mehefin 24 – Adeiladau’r Goron, 31 Stryt Caer, Wrecsam, LL13 8BG
  • Mehefin 8 a 22 – Hwb Menter, Sgwâr y Frenhines, Wrecsam, LL11 1AT
  • Mehefin 20 – Glyn Wylfa, Ffordd y Castell, y Waun LL14 5BS
  • Mehefin 10 – Canolfan Gymunedol Marchwiail, Rhodfa Piercy, Marchwiail, LL13 0RH
  • Mehefin 9 – Phoenix Homecare and Support, Wrecsam, LL11 4YL
  • Mehefin 21 – Cae Pêl-droed Wrecsam, Ystafell 1864, y Cae Ras, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam, LL11 2AH

Os hoffech chi ddysgu mwy am sut beth ydi byw gyda dementia, yna archebwch eich lle ar y Bws Dementia Rhithiol pan fydd yn dychwelyd i Wrecsam fis Mehefin 2022.

Cynhelir tri sesiwn bob dydd ac mae’n rhaid cadw lle:

01978 292000

Commissioning@wrexham.gov.uk

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

TANYSGRIFWYCH