Dyfeisiwyd y Daith Ddementia Rhith ugain mlynedd yn ôl i roi cyfle i bobl ag ymennydd iach brofi sut beth ydi dementia. Mae’n rhoi cyfle i bobl gerdded i mewn i fyd pobl sy’n byw gyda dementia ac yna newid yr amgylchedd a’u harferion er mwyn ceisio gwella gofal a chaniatáu i’r sawl â dementia aros gartref am gyfnod hwy.
Wrth gerdded yn esgidiau unigolyn gyda dementia, gallwn ddechrau deall y problemau maent yn eu profi bob dydd. Byddwch yn profi teimladau o fod yn ddryslyd, ar goll, yn ofnus, bregus a llawer mwy, ac felly yn deall beth sydd arnoch chi angen ei newid i wella safonau gofal.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Meddai’r Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae’r Bws Dementia yn unigryw gan ei fod yn rhoi cyfle i chi gerdded yn esgidiau rhywun sy’n byw gyda dementia, gallwch ddechrau deall y materion gwahanol maent yn eu hwynebu bob dydd. Byddwch yn profi teimladau o fod yn ddryslyd, ar goll, yn ofnus, bregus a llawer mwy, ac felly yn deall beth sydd arnoch chi angen ei newid i wella safonau gofal.
“Os oes gennych chi anwylyn sy’n byw gyda dementia, neu os hoffech chi fwy o wybodaeth a gwella’ch dealltwriaeth o fyw gyda dementia, cysylltwch â’r tîm ac archebwch le ar y bws.”
Bydd y bws yn y lleoliadau canlynol:
• 18 Chwefror – Neuadd Bentref Bangor Is-coed, Wrecsam, LL13 0BY
• HARCHEBU’N LLAWN BELLACH 19 Chwefror – Sefydliad Gofal Parc Pendine, Wrecsam, LL13 7YW
• HARCHEBU’N LLAWN BELLACH 20 Chwefror – Pheonix Homecare and Support, Wrecsam, LL11 4YL
• HARCHEBU’N LLAWN BELLACH 21 Chwefror – Hwb Menter (yr hen Iceland), Wrecsam, LL11 1AT
*Mae sesiynau hwyrach ar gael ar 19 a 20 Chwefror er mwyn i ofalwyr allu mynychu.
Os hoffech chi ddysgu mwy am sut beth ydi byw gyda dementia, yna archebwch eich lle ar y Bws Taith Ddementia Rhith pan fydd yn dychwelyd i Wrecsam fis Chwefror 2020.
Bydd tair sesiwn ar gael bob dydd ac mae’n rhaid archebu lle:
01978 292066
comisiynu@wrecsam.gov.uk
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN