Ers mis Awst, mae Cyngor Wrecsam wedi bod yn cynnal y cynfas blynyddol i sicrhau bod holl breswylwyr y fwrdeistref sirol sy’n gallu pleidleisio, wedi cofrestru.
Mae’r gwaith bron â dod i ben, felly beth nesaf?
A ninnau bellach yn gwybod pwy sy’n gymwys i bleidleisio, rydym yn symud ymlaen i’r ail gam. Mae hyn yn golygu, os yw’r gwaith canfasio yn dangos bod pobl ar eich aelwyd sydd heb gofrestru, bydd Gwahoddiad i Gofrestru yn cael ei anfon atoch. Trwy lenwi’r ffurflen hon, mae’n golygu y byddwch chi’n gallu pleidleisio pan ddaw hi’n amser etholiadau.
Dros y 12 mis nesaf, bydd hyn yn cynnwys Etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a fydd yn cael ei gynnal ddydd Iau, 2 Mai 2024 a’r Etholiad Cyffredinol, a fydd yn cael ei gynnal unrhyw adeg cyn mis Ionawr 2025. Os byddwch yn derbyn Gwahoddiad i Gofrestru, peidiwch â’i anwybyddu… mae cymryd rhan mewn democratiaeth yn golygu defnyddio eich pleidlais, ond er mwyn gallu gwneud hynny, mae’n rhaid i chi gofrestru.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.