Peidiwch â cholli eich pleidlais – nawr yw’r amser i wirio eich manylion cofrestru etholiadol neu golli eich siawns i bleidleisio ar benderfyniadau sy’n effeithio arnoch chi.
Mae’r canfasio blynyddol yn caniatáu i Gyngor Wrecsam ddiweddaru’r gofrestr etholiadol, i ganfod pwy sydd mewn perygl o golli eu llais yn yr etholiadau, ac i’w hannog i gofrestru cyn y bydd yn rhy hwyr.
Dywedodd Ian Bancroft, Swyddog Canlyniadau Cyngor Wrecsam: “Cadwch olwg am ddyddiadau pwysig gan Gyngor Wrecsam yma ac ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol. Y canfasiad blynyddol yw ein ffordd ni o wneud yn siŵr bod y wybodaeth ar y gofrestr etholiadol ar gyfer pob cyfeiriad yn gywir. I wneud yn siŵr nad ydych yn colli eich llais ar unrhyw etholiadau i ddod yng Nghymru, dilynwch y cyfarwyddiadau a anfonwyd atoch chi.
“Os nad ydych wedi cofrestru ar hyn o bryd, ni fydd eich enw yn ymddangos yn y diweddariadau a anfonir gennym. Os hoffech chi gofrestru, y ffordd hawsaf yw mynd ar-lein i www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.”
Anogir rhai sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar i wirio eu manylion, gan eu bod yn llai tebyg o gofrestru na’r sawl sydd wedi byw yn y cyfeiriad am amser maith. Yng Nghymru, bydd 95% o’r sawl sydd wedi byw yn eu cartref am 16 mlynedd wedi cofrestru, o’i gymharu â 53% o bobl sydd wedi byw yn y cyfeiriad am lai na dwy flynedd.
Mae gwybodaeth ar gofrestru i bleidleisio ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich statws cofrestru, gallwch anfon e-bost at y tîm gwasanaethau etholiadol yn electoral@wrexham.gov.uk.