Ar ôl llwyddo i droi 52 darn o ffordd yn ôl i 30mya, mae Cyngor Wrecsam wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid i sicrhau bod pobl yn cadw at y terfynau cyflymder newydd.
Dywed y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd David A Bithell, sydd hefyd yn arwain ar Drafnidiaeth Strategol yn y fwrdeistref sirol, y bydd y cyngor yn parhau i weithio gyda thîm GanBwyll Heddlu Gogledd Cymru.
Nod y fenter GanBwyll yw helpu i gadw pobl yn ddiogel ar ffyrdd Cymru drwy addysg a gorfodi – addysgu gyrwyr i yrru’n ddiogel ac yn gyfreithlon, tra’n cymryd camau gorfodi’n erbyn pobl sy’n gyrru’n beryglus ac yn rhoi eu hunain ac eraill mewn perygl.
Mae GanBwyll yn gyfrifol am gamerâu cyflymder sefydlog, camerâu golau coch, camerâu cyflymder cyfartalog, a chamerâu gorfodi symudol.
Dwedodd y Cynghorydd Bithell: “Rydyn ni wedi gwrando ar ein cymunedau ac wedi llwyddo i droi 52 darn o briffordd yn ôl o 20mya i 30mya. Gwnaed hyn i gyd yn unol â meini prawf diwygiedig gan Lywodraeth Cymru, a ariannodd yr holl waith yn llawn.
“Nawr mae’r holl arwyddion yn eu lle, rydyn ni eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod gyrwyr yn cadw at y terfynau cyflymder newydd. Rydym yn cael llawer o gwynion am oryrru gan ein cymunedau a gobeithio y bydd y newidiadau a wnaed yn mynd i’r afael â phryderon a godwyd yn yr ymgynghoriad.
“Mae swyddogion yn ein hadran draffig eisoes yn gweithio’n agos gyda’r tîm GanBwyll, a byddwn yn ceisio parhau i weithio gyda’n gilydd.”