Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae’r Cyngor yn edrych i weithio gyda phartneriaid i orfodi terfynau cyflymder 30mya
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Mae’r Cyngor yn edrych i weithio gyda phartneriaid i orfodi terfynau cyflymder 30mya
Arall

Mae’r Cyngor yn edrych i weithio gyda phartneriaid i orfodi terfynau cyflymder 30mya

Diweddarwyd diwethaf: Medi 3, 2025 4:03 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Driving
RHANNU

Ar ôl llwyddo i droi 52 darn o ffordd yn ôl i 30mya, mae Cyngor Wrecsam wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid i sicrhau bod pobl yn cadw at y terfynau cyflymder newydd.

Dywed y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd David A Bithell, sydd hefyd yn arwain ar Drafnidiaeth Strategol yn y fwrdeistref sirol, y bydd y cyngor yn parhau i weithio gyda thîm GanBwyll Heddlu Gogledd Cymru.

Nod y fenter GanBwyll yw helpu i gadw pobl yn ddiogel ar ffyrdd Cymru drwy addysg a gorfodi – addysgu gyrwyr i yrru’n ddiogel ac yn gyfreithlon, tra’n cymryd camau gorfodi’n erbyn pobl sy’n gyrru’n beryglus ac yn rhoi eu hunain ac eraill mewn perygl.

Mae GanBwyll yn gyfrifol am gamerâu cyflymder sefydlog, camerâu golau coch, camerâu cyflymder cyfartalog, a chamerâu gorfodi symudol.

Dwedodd y Cynghorydd Bithell: “Rydyn ni wedi gwrando ar ein cymunedau ac wedi llwyddo i droi 52 darn o briffordd yn ôl o 20mya i 30mya. Gwnaed hyn i gyd yn unol â meini prawf diwygiedig gan Lywodraeth Cymru, a ariannodd yr holl waith yn llawn.

“Nawr mae’r holl arwyddion yn eu lle, rydyn ni eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod gyrwyr yn cadw at y terfynau cyflymder newydd. Rydym yn cael llawer o gwynion am oryrru gan ein cymunedau a gobeithio y bydd y newidiadau a wnaed yn mynd i’r afael â phryderon a godwyd yn yr ymgynghoriad.

“Mae swyddogion yn ein hadran draffig eisoes yn gweithio’n agos gyda’r tîm GanBwyll, a byddwn yn ceisio parhau i weithio gyda’n gilydd.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Mobile phone Bydd eich ffôn symudol yn dirgrynu ac yn gwneud sŵn uchel fel seiren ddydd Sul
Erthygl nesaf ‘Dod â gweithgaredd chwareus i neuadd y farchnad’ - Tŷ Pawb i greu gofod gweithgaredd hyblyg newydd sbon ‘Dod â gweithgaredd chwareus i neuadd y farchnad’ – Tŷ Pawb i greu gofod gweithgaredd hyblyg newydd sbon

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

'Dathliad enfawr a gwyllt!' - Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
‘Dathliad enfawr a gwyllt!’ – Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Parciau am ddim ar ddiwrnodau gemau
Wrecsam v Preston: dewiswch y parcio a theithio
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o'n blaenau
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o’n blaenau
Y cyngor
Hydref 14, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 13, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Medi 29, 2026
Street lighting
Arall

Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English